“I had the hardiness to venture on a journey to the remotest part of North Britain, a country almost as little known to its southern brethren as Kamschatka. I brought home a favourable account of the land. Whether it will thank me or not I cannot say, but from the report I made, and shewing that it might be visited with safety, it has ever since been inondée with southern visitors”
Thomas Pennant
Arweinir prosiect y Teithwyr Chwilfrydig gan y Prif Anogwr Dr Mary-Ann Constantine (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru; y Ganolfan) a’r Cyd-Anogwr yr Athro Nigel Leask (Glasgow). Y mae tîm y prosiect yn cynnwys Dr Elizabeth Edwards a Dr Ffion Mair Jones o’r Ganolfan, Aberystwyth, ynghyd â Dr Alex Deans, Dr Vivien Estelle Williams, a Dr Luca Guariento, sy’n darparu arbenigedd Albanaidd, trawsgrifiadau, a chefnogaeth dechnegol yn Glasgow. Sicrhaodd Kirsty McHugh ysgoloriaeth ymchwil Ôl-raddedig wedi’i hariannu’n llawn oddi wrth yr AHRC i weithio gyda’r tîm. Y mae Constantine a Leask wedi bod yn ysgrifennu monograffau, y naill ynghylch y daith yng Nghymru a’r llall ynghylch y daith yn yr Alban, ac y mae’r cymrodyr ymchwil a’n myfyrwraig ddoethurol wedi cynhyrchu sawl ysgrif yn ystod cyfnod pedair blynedd y prosiect: gallwch weld rhestr o’n cyhoeddiadau hyd yn hyn yma. Prif allbynnau’r prosiect yw golygiadau digidol o ddetholiad o Ohebiaeth eang a gwasgaredig Pennant, ac o oddeutu pump ar hugain o Deithiau yng Nghymru a’r Alban gan awduron eraill, na welsant olau dydd o’r blaen. Rydym yn parhau i ychwanegu at y rhain. Nod ein gwefan yw bod yn ffynhonnell fywiog ar gyfer gwybodaeth ynghylch y profiad o deithio yn yr Alban ac yng Nghymru yn y cyfnod, ac y mae’n cynnwys mapiau cliciadwy o deithiau penodol.
Dros y pedair blynedd a ariannwyd, cynhaliodd y prosiect nifer o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd cenedlaethol a lleol drwy Gymru a’r Alban, gan dynnu sylw at elfennau gweledol a materol y daith, gan gynnwys peintio mewn dyfrlliw, daeareg, neu fyd natur, er enghraifft. O ran digwyddiadau creadigol, gwelwyd artistiaid ac awduron yn dilyn hynt Pennant (boed hindda neu dywydd) er mwyn creu eu fersiynau modern o’r Daith: gallwch ddarllen eu blogiau yma.
Ariannwyd ein prosiect gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (Arts and Humanities Research Council; AHRC). Un o’n partneriaid yw Diwylliannau Gwybodaeth Rhydychen (Oxford Cultures of Knowledge): ceir ar eu gwefan hwy, Llythyrau Modern Cynnar Ar-lein (Early Modern Letters Online; EMLO) gronfa ddata o ohebiaeth Pennant, sy’n tyfu’n gynyddol. Rhoddwyd caniatâd caredig gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, partner arall, i ni ddefnyddio delweddau o fersiwn ddarluniedig a digidol y Tour in Wales. Y mae gennym gysylltiadau agos yn ogystal ag Amgueddfa Cymru/National Museums Wales, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ac Amgueddfa yr Hunterian yn Glasgow. Cawsom anogaeth a chefnogaeth arbennig gan Gymdeithas Thomas Pennant.