Y llanc yn Baronhill

Ffion Mair Jones

Traeth Lafan: ‘Looking over Lavan Sands for SH6273. Taken while walking the Wales Coast Walk at Coed Cyfynys’. Hawlfraint Ian S, trwyddedwyd drwy creativecommons.org

Ar daith i draeth Lafan (y draethell leidiog ym mhen dwyreiniol afon Menai) rywdro yn nhymor yr hydref yn y flwyddyn 1768, daeth Owen Holland o Blas Isa’, Conwy, ar draws sbesimenau difyr o greaduriaid morol: madfall nad oedd yn gennog, a chreadur a edrychai fel math o falwen fawr. Mae ei ddisgrifiad o’r olaf yn bur fanwl, ond ychydig yn anodd i’w ddehongli. Ymddengys ei bod wedi’i gorchuddio â blewiach sgleiniog; roedd ei thraed (yn y lluosog) yn gryfach na’r disgwyl (‘troed’ yw’r enw cyffredin ar y rhan fwyaf amlwg o gorff malwen, gan gynnwys y fôr falwen, y tu allan i’w chragen, y rhan sy’n ei galluogi i gropian yn ei blaen); ac roedd ganddi dentaclau garw yr un lliw â gwddf paun. Mewn llythyr dyddiedig 6 Tachwedd y flwyddyn honno, rhoddodd Holland adroddiad ynghylch ei ddarganfyddiadau i’w gyfaill, Thomas Pennant, oedd wrthi ar y pryd yn cyhoeddi dwy gyfrol gyntaf ei arolwg swolegol o greaduriaid Prydain, British zoology. Er mwyn goleuo ychydig ar ei ddisgrifiad o’r creaduriaid, fe gynhwysodd ddarluniau ohonynt o waith ‘y llanc o Lŷn y cefais hyd iddo yn Baronhill’, gan ofyn i Pennant gadw’r darluniau ar ei ran a rhoi gwybod iddo beth oedd y creaduriaid.

Moses Griffith, Baron Hill, o gopi addurnedig Thomas Pennant o Continuation of the journey (argr. 1af, London: Henry Hughes, 1783), LlGC

Roedd Baron Hill, ger Biwmares ym Môn, cartref y Bwcleiod (y ‘Bulkeleys’), wedi colli ei benteulu, pan fu farw James, chweched is-iarll Bulkeley, yn 1752, a’i wraig yn disgwyl eu trydydd plentyn ar y pryd. Rhoddodd William Morris, Caergybi, adroddiad ynghylch y digwyddiad galarus mewn llythyr at ei frawd Richard ar 28 Mai: ‘. . . daccw’r gwr mwya yn ein gwlad ni wedi marw, y sef yr Arglwydd Bwclai, ag iddo ferch gwmpas dwy flwydd oed, ar wraig yn feichiog, ag oni ymddwg hi fab, ffarwel ir Arglwyddiaeth, yr hon a ddescyn i ryw Gyrnol Bwclai yn Ffrainc, neu’n rhywle’. Rhyddhad i bobl Môn, mae’n siŵr, fyddai clywed am enedigaeth Thomas, seithfed is-iarll Bulkeley, ar 12 Rhagfyr y flwyddyn honno. Ni ddaeth i oedran am flynyddoedd lawer, wrth reswm, a’i fam, yr Arglwyddes Bwcle (yn enedigol Emma, merch Thomas Rowlands o Gaerau, Ynys Môn) oedd yn rhedeg y sioe yn Baron Hill yn y cyfamser, yn wraig i Syr Hugh Williams, yr wythfed barwnig o Nant, sir Gaernarfon, o 1760 ymlaen. Cawn dystiolaeth o’i diddordebau ym myd natur gan William Morris. Adroddodd wrth ei frawd Richard ym mis Mehefin 1756 iddi ymweld ag ef i ‘[b]esgi ei golygon prydferth ar fy nghregin am ffosilod, etc., [ac i g]eisio fy hudo i ddyfod ir Baronhill i weled ei phethau hithau’, gan gloi ei sylwadau yn ei chylch gyda’r disgrifiad clodwiw, ‘Virtuosa o’r wraig’. O ystyried pwysigrwydd medr yr arlunydd i’r rhai â’u bryd ar astudio byd natur (roedd Pennant yn abl gydag offer yr artist, a cheir lle i gredu fod yr un peth yn wir am William Morris), efallai nad syndod yw gweld yng ngeiriau Owen Holland gyfeiriad at arlunydd y daeth ar ei draws yn Baron Hill.

Moses Griffith, Ipse fecit: hunanbortread o Moses Griffith yng nghopi addurnedig Thomas Pennant o’i Literary life: LlGC, llsgr. 12706E

Nid oes fawr amheuaeth pwy oedd yr arlunydd ifanc, dybiwn i. Noda Peter Lord mewn cofnod yn yr ODNB i Moses Griffith, o Drygarn ym mhlwyf Bryncroes yn Llŷn, ddechrau gweithio i Thomas Pennant yn 1769, blwyddyn taith gyntaf Pennant i’r Alban ac, yn wir, iddo fynd gyda’i gyflogwr ar y siwrnai honno. Byddai gallu’r gŵr ifanc fel arlunydd wedi dod i sylw Pennant, mae’n debyg, meddai Lord. Yng ngeiriau Owen Holland cawn dystiolaeth newydd sy’n awgrymu sut y gallai hyn fod wedi digwydd. Mae’n dangos llwybr Griffith o Drygarn i Downing, drwy un o dai mawr gogledd Cymru, Baron Hill, a geirda un o gyfeillion agos Pennant, Owen Holland, ym mis Tachwedd 1768. Nid oes sicrwydd i wybodaeth Holland arwain yn uniongyrchol at y penodiad, ond gwyddom o ddarllen ei lythyr at Pennant ei fod wedi anfon enghreifftiau o waith ‘y llanc o Lŷn’ (y madfall a’r fôr falwen) ato y flwyddyn honno. Mae’n dystiolaeth o’r modd yr oedd Moses Griffith, os Moses Griffith, yn crwydro ac yn dod i sylw byddigion a naturiaethwyr erbyn 1768. Noda Pennant fod Moses Griffith, ‘y trysor hwnnw’, yn gweithio iddo erbyn gwanwyn y flwyddyn ddilynol – ychydig fisoedd yn unig wedi i Holland anfon y llythyr dan sylw ato. Nid yw’n wir ei fod wedi mynd gyda’i gyflogwr ar y daith gyntaf i’r Alban rhwng 26 Mehefin a 22 Medi 1769 (‘I had no draftsman in 1769’, nododd Pennant wrth ei gyfaill George Paton yn 1779); efallai fod a wnelo hynny â natur fyrfyfyr y siwrne, a ystyrid gan gyfeillion Pennant braidd yn annoeth a pheryglus. Roedd Moses yn bresenoldeb bwysig erbyn yr ail daith yn 1772, serch hynny, a daeth yn wasanaethwr allweddol i Pennant ar ei deithiau yng Nghymru yn ddiweddarach ac fel cyfrannwr at waith dau ddegawd olaf ei fywyd yn addurno copïau o nifer helaeth o’i gyhoeddiadau.

 Cyfeiriadau:

  • Archifdy Sirol Swydd Warwig; CR2017/TP255/2: Owen Holland at Thomas Pennant, 6 Tachwedd 1768
  • History of Parliament ar-lein Oxford Dictionary of National Biography ar-lein
  • John H. Davies (gol.), The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris, of Anglesey, (Morrisiaid Mon) 1728–1765 (2 gyfrol, Aberystwyth, 1907, 1909)
  • Alex Deans (gol.), ‘The Correspondence of Thomas Pennant and George Paton’, curioustravellers.ac.uk (i’w gyhoeddi)
  • Paul Evans, ‘ “A round jump from ornithology to antiquity”: The development of Thomas Pennant’s Tours‘, yn Enlightenment travel and British identities: Thomas Pennant’s Tours in Scotland and Wales (Anthem, i’w gyhoeddi), gol. gan Mary-Ann Constantine a Nigel Leask
  • Ailsa Hutton a Nigel Leask, ‘ “The first antiquary of his country”: Robert Riddell’s extra-illustrated and annotated volumes of Thomas Pennant’s Tours in Scotland‘, yn Enlightenment travel and British identities (gw. uchod)
  • Thomas Pennant, The Literary life of the late Thomas Pennant, Esq. by himself  (London, 1793)
  • Helen Ramage, Portraits of an Island: Eighteenth Century Anglesey (2il argr.; Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 2001)
  • Peter D. G. Thomas, ‘Sir Hugh and Lady Bulkeley: Love and politics in mid-eighteenth-century Anglesey’, Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn (1992), 51–62