Y Cyfarfyddiad

Meddyliau ‘dan glo’ gan Gadeirydd Cymdeithas Thomas Pennant

Norman Closs Parry

[English version here]

Richard Wilson: Snowdon from Llyn Nantlle (Walker Art Gallery)

Richard Wilson: Snowdon from Llyn Nantlle (Walker Art Gallery)

Ni feddyliais wrth ddarganfod cyfrol newydd Jonathan Bate, Radical Wordsworth: The Poet who changed the world (2020) buasai yn agor unrhyw ddrws i ymchwilio am agwedd newydd diddorol o Thomas Pennant. Yn ein darlithoedd yr ydym yn arfer efo ysgolheigion yn cyfeirio at berthynas Pennant a gwŷr mawr Ewrop yn ei gyfnod, megis Voltaire, Buffon, a Linnaeus, ond mae Jonathan Bate wedi tynnu sylw at ffaith diddorol yn nes adref o lawer.

Pan aeth y bardd Wordsworth o Ardal y Llynoedd i Caergrawnt (a gellir olrhain y gwirionedd yn ei gerdd fawr hunangofiannol The Prelude) mae’n dal at yr ysfa i gerdded, sefyll, ac edrych i ‘mewn’ i bethau. Yn 1790, rhwng Gorffennaf-Hydref, aeth ar daith i Ffrainc, y Swistir a’r Almaen efo cyfaill o efrydydd Robert Jones.

 Yn Ionawr 1791, mae’n eistedd ei arholiadau gradd B.A. Cafodd ei radd ar 21 Ionawr – ond un bur siomedig. Aeth i fyw i Lundain hyd fis Mai. Yna ymunodd efo teulu Robert Jones yn Plas-y-Llan , Llangynhafal, Sir Ddinbych. Yno , mae’n debyg, daeth ar draws A Tour in Wales gan Thomas Pennant, darllenodd y gyfrol yn awchus a chynllunio efo Robat ei gyfaill (oedd a’i fryd ar ’yr eglwys’) ymgymeryd â rhai o’r lleoedd y soniai Pennant amdanynt – megis  Journey to Snowdon, sef ail gyfrol A Tour in Wales. Nid yw tu hwnt i ddychymyg fod teulu y Jonesiaid efo cysylltiadau efo Y Parch John Lloyd, Caerwys er enghraifft, a rhyngddynt, gan nad oedd Chwitffordd ond taith gymharol fer ar draws gwlad, i William Wordsworth gael gwahoddiad i’r Downing lle bu yn trafod y teithiau yn gyffredinol ar cofnod yn ‘Dringo’r Wyddfa’ yn arbennig.

 Yn ystod yr arhosiad aeth y bardd a’i gyfaill a thywysydd i fyny’r mynydd un nos fyth gofiadwy! Byth gofiadwy?

 Wedi canfod y stori uchod, darllenais gofnod hyfryd Pennant mewn prose da am ei daith, ac wedyn cefais fy syrfdanu wrth ddarllen cerdd fawr Wordsworth, ‘The Prelude’ sydd mewn 14 o ‘lyfrau’. Mae’r gerdd arwrol hon yn defnyddio’r profiadau aruthrol gafwyd uwchlaw y niwl yn y lleuad llachar ar y copa y nos honno: bu’r profiadau’n rhan bwysig or hyn oedd yn ffilosoffi gwaelodol gan William Wordsworth.

When at my feet the ground appeared to brighten,
And with a step or two seemed brighter still;
Nor was time given to ask or learn the cause,
For instantly a light upon the turf
Fell like a flash, and lo! as I looked up,
The Moon hung naked in a firmament
Of azure without cloud, and at my feet
Rested a silent sea of hoary mist.
A hundred hills their dusky backs upheaved
All over this still ocean; and beyond,
Far, far beyond, the solid vapours streched,
In headlands,tongues, and promontory shapes,
Into the main Atlantic, that appeared
To dwindle, and give up his majesty,
Usurped upon far as the sight could reach.

(The Prelude 1850, Book XIV)

Norman Closs Parry (Gorffennaf 2020)

Diweddglo: ymweliad Wordworth i Downing

Mewn llythyr a ysgrifennodd blynyddoedd wedyn, dyma Wordsworth yn hel atgofion am ei ymweliad i Downing (naill ai ym 1791, neu rywbryd arall yn y 1790au). Mae’n cynnig darlun bywiog o Pennant ei hun:

“Five and thirty years ago I passed a few days in one of its most retired vallies at the house of a Mr Thomas some time since dead. His ordinary residence was upon an estate of his in Flintshire close to Mr Pennant’s of Downing with whom, I mean the Zoologist, then a handsome figure of a man in the freshness of green old age I passed several agreeable hours in his library; he was upwards of seventy, tall and erect and seemed to have fair pretensions for 15 years of healthful and useful life, but soon after he fell into a sudden languishment, caused mainly I believe by the death of a favorite Daughter, and died…”

Llythyr at George Huntly Gordon, 14 Mai 1829, a ddyfynnwyd yn Donald E. Hayden, Wordsworth’s travels in Wales and Ireland, (Tulsa, Oklahoma : University of Tulsa, 1985). Gweler hefyd erthygl D. Myrddin Lloyd, ‘Wordsworth and Wales’, National Library of Wales Journal, VI, (1950) 338-350.

Am ragor o ddisgrifiadau diddorol o ddringo’r Wyddfa yn y cyfnod (gan gynnwys rhai Wordsworth a Pennant) gweler Michael Freeman.