
Moses Griffith, Penmaen Bach from Penmaen Mawr Road: o’r ‘Tours in Wales’ addurnedig (LLGC)
[https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Penmaenbach_from_Penmaen_Mawr_road.jpg]
Paratoi Testunau
Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r tîm ymchwil wedi bod yn canolbwyntio ar baratoi detholiad o lythyrau ac ysgrifau teithio ar gyfer cyhoeddiad ar-lein. Rydym yn bwriadu lansio’r set cyntaf o destunau ym mis Tachwedd, yn Llundain, mewn cynhadledd yn y Linnean Society (gw. isod). Mae’r broses o baratoi testunau ar gyfer cyhoeddiad digidol wedi bod yn eithaf heriol, gan gynnwys agweddau technegol (megis tagio enwau) sy’n mynd tu hwnt i dasgau golygyddol arferol. Ond bydd hyn yn gadael i ddarllenwyr archwilio’r deunydd mewn gwahanol ffyrdd, gan arwain at ddarganfyddiadau newydd yng nghohebiaeth Pennant. Bydd yn haws deall hefyd sut defnyddiwyd ei waith gan awduron a theithwyr diweddarach. Fel erioed, mawr yw’n diolch i’n tîm technegol, sef Luca Guariento and Vivien Williams, am hwyluso’r broses gymhleth hon inni cymaint â phosib.
Arddangosfa a Digwyddiadau Hydref-Rhagfyr 2018
Mae arian y prosiect yn dod i ben eleni, ac rydym am ddathlu pedair blynedd brysur iawn gyda chyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd ag arddangosfa yn Nhŷ Dr Johnson yn Llundain. Mewn cydweithrediad â’r Curadur, Celine Luppo McDaid, bwriedir archwilio taith enwog Johnson & Boswell i Ucheldiroedd yr Alban yn 1773 mewn goleuni taith Thomas Pennant (blwyddyn yn gynharach!). Ceir hefyd detholiadau o lythyrau a theithiau Hester Piozzi – cyfaill agos i Johnson a pherthynas i Pennant. Cynhelir gwahanol ddigwyddiadau yn ystod tri mis yr arddangosfa:
4 Hydref: Agoriad yr arddangosfa, Curious Travellers: Dr Johnson and Thomas Pennant on Tour
30 Hydref: Darlith gan Dr Mary-Ann Constantine i Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain
15 Tachwedd (Tŷ Dr Johnson): Dwy ddarlith gan Yr Athro Murray Pittock a’r Athro Nigel Leask ar Dr Johnson a Thomas Pennant.
16 Tachwedd: Cynhadledd undydd & lansiad y testunau digidol (Linnean Society, Burlington House, Llundain)
14 Rhagfyr (Tŷ Dr Johnson): Noswaith o farddoniaeth a cherddoriaeth yng nghmwni beirdd o’r Alban ac o Gymru, Alec Finlay ac Ifor ap Glyn.

[https://en.wikipedia.org/wiki/Samuel_Johnson#/media/File:Samuel_Johnson_by_Joshua_Reynolds.jpg]