Teithiau Darluniedig Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban

Y tu mewn i gyfrolau Teithiau Darluniedig Thomas Pennant, a grëwyd yn ystod y 18fed ganrif, ceir lluniau a pheintiadau gan Moses Griffith, John Ingleby ac artistiaid adnabyddus eraill o’r cyfnod. Mae’r cyfrolau unigryw hyn – a adeiladwyd o amgylch testunau printiedig Teithiau Pennant yng Nghymru a’r Alban – yn perthyn yn wreiddiol i gasgliad personol Pennant yn Neuadd Downing, ac yn arddangos tirluniau ac adeiladau (nifer ohonynt erbyn hyn yn ddiflanedig) fel yr oeddynt yn ystod cyfnod Teithiau’r awdur.

Cymru:

8 o gyfrolau darluniedig: https://www.library.wales/discover-learn/digital-exhibitions/pictures/a-tour-in-wales

Yr Alban:

‘Extra Illustrated Tour in Scotland 1769‘, Rhan I: Tudalen LLGC

‘Extra Illustrated Tour in Scotland 1769‘, Rhan II (Fersiwn 1): Tudalen LLGC 

‘Extra Illustrated Tour in Scotland 1769‘, Rhan II (Fersiwn 2): Tudalen LLGC 

‘Extra-Illustrated Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides 1772′, Rhan I (Fersiwn 1, Cyf. 1): Tudalen LLGC 

‘Extra-Illustrated Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides 1772′, Rhan I, (Fersiwn 1, Cyf. 2): Tudalen LLGC 

‘Extra-Illustrated Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides 1772‘, Rhan I, (Fersiwn 2, Cyf. 1): Tudalen LLGC 

‘Extra-Illustrated Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides 1772‘, Rhan I, (Fersiwn 2, Cyf. 2): Tudalen LLGC 

‘Extra-Illustrated Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides 1772‘, Rhan II (Fersiwn 1): Tudalen LLGC 

‘Extra-Illustrated Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides 1772′, Rhan II (Fersiwn 2): Tudalen LLGC

*Lluniau o NLW/LLG, drwy Wikimedia Commons, a a Chymynrodd David Laing i Academi Frenhinol yr Alban, trosglwyddwyd 1910

Darlunio Pennant

Fel rhan o’r prosiect Teithwyr Chwilfrydig 2, cafwyd cydweithrediad a thîm torfoli Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn creu cysylltiadau rhwng cyhoeddiadau digidol y Teithiau yng Nghymru a’r Alban a’r darluniau cyfatebol yn y Teithiau Darluniedig digidol. Cyflwyna’r cysylltiadau hyn rhwng testun a delwedd ddata ymchwil newydd ar gyfer y tîm golygyddol, yn ogystal â chyfoethogi ffynonellau digidol LLGC yn sylweddol. Darganfyddwch fwy am yr agwedd hon ar y prosiect a’i allbynnau yma.