Y Tîm Ymchwil

Teithwyr Chwilfrydig: tîm y prosiect

Prif Ymholydd: Mae’r Dr Mary-Ann Constantine (CUCCh) yn gweithio ar Ramantiaeth yng Nghymru ac wedi arwain dau brosiect blaenorol a ariannwyd gan yr AHRC: ‘Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru’ a ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ffugio Rhamantaidd, casglu baledi a chaneuon gwerin, llenyddiaeth daith a rhwydweithiau radical Cymreig.

Cyd-Ymholydd: Mae’r Athro Nigel Leask (Glasgow) yn dal Cadair Regius mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Glasgow er 2004, ac wedi cyhoeddi’n helaeth ym maes llenyddiaeth a diwylliant Rhamantaidd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys Robert Burns a llenyddiaeth yr Alban 1750–1850, Dwyreinioldeb Rhamantaidd, llenyddiaeth daith ac Ymerodraeth, a llenyddiaeth Eingl-Indiaidd yn y cyfnod Rhamantaidd.

Cymrawd Ymchwil: Mae Dr Ffion Mair Jones (CUCCh) wedi gweithio a chyhoeddi’n helaeth ar rwydweithiau gohebiaeth yng Nghymru’r cyfnod Rhamantaidd, yn eu plith ohebiaeth Edward Williams (Iolo Morganwg). Mae ei diddordebau ymchwil eraill yn cynnwys caneuon gwerin Cymraeg, traddodiad y faled brintiedig, a’r anterliwt.

Cymrawd Ymchwil: Mae Dr Elizabeth Edwards (CUCCh) yn gweithio ar lenyddiaeth sy’n tarddu o Gymru’r cyfnod Rhamantaidd ac yn trafod Cymru’r cyfnod hwnnw, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth merched (Hester Piozzi, Felicia Hemans) ac yng ngwaith awduron o’r dosbarth gweithiol: mae hi’n awdur detholiad o farddoniaeth Saesneg o Gymru ac yn ddiweddar wedi cwblhau golygiad o gerddi Richard Llwyd, y ‘Bard of Snowdon’.

Cymrawd Ymchwil: Yn ddiweddar, cwblhaodd Dr Alex Deans (Glasgow) ddoethuriaeth o dan nawdd yr AHRC ynghylch gwleidyddiaeth a barddoneg darllen ac ysgrifennu ymysg y dosbarth gweithiol yn ystod yr Ymoleuo yn yr Alban. Mae wedi traddodi papurau cynhadledd ar waith Robert Burns, James Hogg a’r hunangofiant ymhlith y dosbarth gweithiol yn y cyfnod Rhamantaidd, ac mae’n aelod o Grw^p Ymchwil Rhamantiaeth Albanaidd ym Mhrifysgol Glasgow.

Myfyrwraig ôl-raddedig: Cafodd Kirsty McHugh ei hariannu gan yr AHRC i weithio ar draethawd ymchwil PhD ‘Northern English Travellers to Wales and Scotland 1760–1840: a study of manuscript accounts from Yorkshire and Lancashire’. Cyfrannodd Kirsty erthyglau a blogiau i’r prosiect, yn ogystal a thrawsysgrifio rhan o ddyddiadur Anne Lister sy’n disgrifio ei thaith yng Nghymru yn 1822.

Mae hi bellach yn Guradur Archif John Murray yn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.

Cynorthwyydd prosiect: Dr Vivien Williams (Glasgow).

Datblygwr Systemau: Dr Luca Guariento (Glasgow).

Ymgynghorydd: Dr R. Paul Evans, awdur doethuriaeth yngylch Pennant ynghyd â sawl ysgrif allweddol ynghylch ei fywyd a’i waith.