Ffion Mair Jones
These home-travels are the first part of an account of my own country; and were actually performed in the year mentioned in the title page. The world justly loves the reality; therefore, this is mentioned to satisfy the public, that they are not formed out of tours undertaken at different periods
Mae’r dudalen deitl yn enwi’r flwyddyn MDCCLXX [1770], ond mewn sawl argraffiad o’r gyfrol gyntaf o deithiau Pennant, cywirwyd y dyddiad i’r flwyddyn MDCLXXIII [1773]. Dyna fan cychwyn hynod gymysglyd, felly, yn enwedig o ystyried y pwynt a wneir yn yr ‘Advertisement’ i’r gyfrol gyntaf (gw. uchod)!
Rwy’n tynnu sylw at hyn cyn cychwyn adrodd hanes fy nhaith Bennantaidd fy hun am ddau reswm. Yn gyntaf, er mai 1773 oedd ‘gwir’ ddyddiad y daith y mae Pennant yn sôn amdani yma, roedd llawer o gynnwys y cyfrolau yn tynnu ar daith y bu arni yn 1770, drwy rannau o Feirionnydd, yn bennaf. Y daith honno sydd y tu cefn i’r blog hwn. Yn ail, os oedd Pennant yn gallu, er iddo honni – yn gwbl amlwg wallus a chamarweiniol – mai mewn un cyfnod yn unig y cyflawnwyd ei daith drwy ogledd Cymru, fe alla’ innau hefyd lunio blog cerdded yn seiliedig ar deithiau wedi’u gwasgaru dros sawl penwythnos yn ystod haf 2017, gan gychwyn ar ddydd Sul, 7 Mai, pan gefais gwmni fy merch i ddringo i fyny Carn Dochan yng Nghwm Pennantlliw, a gorffen ar ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf, ar ymweliad a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Sir Feirionnydd â Chaer-gai, ger Llanuwchllyn. At hyn, bu dau ymweliad pellach â phlwy Llanuwchllyn – y naill i weld yr eglwys yn y pentref ar 14 Mai, a’r llall i archwilio’r ddau Glan-llyn, ar 21 Mai. Ers hynny, rydw i wedi bod i fyny Carn Dochan sawl gwaith, y tro diwethaf mewn gwynt rhynllyd ar 2 Ionawr 2020.
A dyna’r dystiolaeth ffeithiol ynghylch fy nhaith yn gyflawn … wel, bron â bod, achos wnes i ddim nodi ‘mod i wedi cael cryn dipyn o gymorth gan y peiriant pedair olwyn er mwyn cyflawni’r holl deithio, ac na fu cymaint â hynny o gerdded. Ond os oedd gan Pennant hawl defnyddio ‘keffel’, fel y mae’n ei enwi wrth John Lloyd, Caerwys, mewn enghraifft brin yn ei lythyrau o ‘newid iaith’ i’r Gymraeg, am wn i nad oedd gen innau hawl gyrru car.
Wedi bod ar grwydr ym Meirionnydd yr oedd Pennant, fel y soniais, yn 1770. Cafodd lety yng Nghors-y-gedol gyda William Vaughan, ac yna yn yr Hengwrt, ger Dolgellau (sydd wedi’i ddymchwel bellach, ond nid cyn i Moses Griffith gael cyfle i dynnu llun ohono). O’r Hengwrt, daeth yn ei flaen dros y Garneddwen i gyfeiriad Llanuwchllyn a’r Bala, cyn ymadael am ddyffryn Edeyrnion a Chorwen a’i hanelu hi’n ôl am ei gartref, Downing. Yn ardal Llanuwchllyn, daliwyd ei sylw gan graig uchel Carn Dochan:
Turned on the left out of the road to see Castel [sic] Corn Dochon; seated on a high rock about a mile from the road. two sides of the rock are precipices. in front is a deep foss cut in the rock. The first part of the castle is a Tour 43 feet by 22 in the inside; & rounded at one end. behind that the ruins of a square Tower joined to the other by a wall; beyond that is another tower too ruinous to mark its form. on each side of the second tower is a deep foss: then the remains of a wall now quite flung down, & by the remains it must have been very considerable. the first is the most entire; the inside faced with square stones & joined with mortar of gravel & shells, is pretty entire.
Sillafu, atalnodi a phrif lythrennau fel yn y gwreiddiol
Mae’r disgrifiad yn nodweddiadol fanwl. Chlywn ni ddim am ei ymdrechion yn cyrraedd brig y graig. (… Parcio’r car wrth bont afon Lliw; troi i’r dde wrth dŷ Heulwen a Charles; mynd heibio Tŷ Du, cartre’ Mrs Davies, athrawes y plant, a’i chi bach du yn cyfarth yn ddig arnom; ac yna dechrau dringo’n serth ar hyd ffordd drol, wedi’n hamgylchynu gan sŵn dŵr yn llifo o’r bryniau ac yn cael ei harnesu i weithio cynllun hydro Dôl Hendre – wel, ym mis Ionawr 2020, o leiaf.) Am y copa’n syth â Pennant, a ninnau’n llusgo ar ei ôl, gan gyrraedd i weld chwalfa o gerrig yn ymestyn o’n cwmpas. Wnes i ddim sylweddoli, ar yr ymweliad cyntaf, mor dyrog oedd y castell, a bod olion ail dŵr yn cuddio y tu ôl i’r un cyntaf. Un peth trawiadol yng nghanol yr argraff gyntaf o anhrefn oedd bod olion codi waliau (neu felly ro’n i’n tybio) o fewn muriau’r castell. Waliau bach isel, taclus, o garreg, fel petai’r ffermwr yn ceisio creu corlannau i’w ddefaid ar y copa unig hwn. Wedi dod yn ôl adref, a gwglo, gwelais mai olion gwaith archaeolegol oedd ar y gweill yng Ngharn Dochan oedd yn gyfrifol am y waliau hyn.


Er mwyn rhoi Pennant ar brawf, fe aethom ati i fesur. Troed am bob troedfedd i gyfateb â’i ddeugain a thair a’i ddwy ar hugain o. Ac roedden ni’n bur gytûn. Yna’r olygfa. Er na chododd Pennant ei ben o’i lyfr nodiadau, cymaint yr oedd ei sylw wedi’i hoelio ar y dystiolaeth ynghylch hyd a lled y castell, roedd hi’n anodd i ni beidio â mwynhau edrych o’n cwmpas o’r safle dyrchafedig hwn: gweld Llyn Tegid, wrth gwrs, i lawr yn y dyffryn, ond hefyd y ffermydd a’r tyddynnod bach i fyny ochrau Peniel a draw am ail gwm mawr yr ardal, Cwm Cynllwyd. (Teithiodd Pennant drwy Gynllwyd, hefyd, ar ei ffordd i Ddinas Mawddwy, ond nid yn ystod taith 1770, er iddo uno’r ymweliadau â’r ddau gwm yn y naratif a gyhoeddodd yn ail gyfrol ei Deithiau, The Journey to Snowdon (1781)).
Yr ail le yr arhosodd Pennant ynddo yn ystod ei ymweliad ag ardal Penllyn yn 1770 oedd un o eglwysi’r pum plwyf. Saif eglwys Llanuwchllyn gyferbyn â thafarn yr Eryrod yn y pentref. Yno, cyfarfu â ‘dyn carreg’ Haf Llewelyn, sef Ieuan ap Gruffudd ap Madog, un o ddisgynyddion Rhirid Flaidd, Arglwydd Penllyn, ‘in full armt & spurs. on his breast plate roses, & on his belly a wolfs head’. Doedd dim mynediad cyhoeddus i’r eglwys yn ystod mis Mai 2017, felly gofynnais i Mel Williams ddod i’w hagor i mi. Â dyddiau’r eglwys fel addoldy bellach wedi dod i ben, mae Mel wedi bod yn arwain ymgyrch i droi’r adeilad yn ganolfan treftadaeth, a llwyddodd ef a’i bwyllgor i ennill un o Grantiau’r Loteri at y diben. Doedd y gwaith atgyweirio ddim wedi’i gychwyn pan fûm i yn yr eglwys, ond roedd Ieuan ap Gruffudd ap Madog yno’n gorwedd yn llonydd a digyffro. Pan ymwelodd Pennant, fe ymdrechodd i gofnodi’r geiriau ar y gofeb:
As much as is legible of the mutilated inscription upon this monument runs thus
…. itur Deus Amen: Anno Dni: MCCC:V 88
Hic Iacet Iohannes ap ….. ap Madoc ap Iorweth [sic; gyda smotyn uwch ben y llythrennau ‘o’, ‘r’ ac ‘w’] cujus anime P[?]. .
There is one of his names quite broke off excepting the first Letter which seems to be a G: and part of the last which I know not what to make of. – The 3 Letters marked with Dotts in Iorweth are mutilated. – A: D: 1300: Vitæ 88.

Fel yn achos mesuriadau’r Gaer uwchlaw, defnyddiodd Pennant y nodiadau hyn yn y golygiad cyntaf o The Journey to Snowdon. Ymhelaethodd hefyd, i drafod elfennau gweledol nodedig y cerflun: presenoldeb yr helmed gonig am ben y marchog, y mwffler mael am ei wddf a’i ên, y ddau ben blaidd – un ar ei frest, un arall ar ei fol (ond ni nododd fod traed Ieuan yn gorffwys ar gerflun o flaidd cyfan) – a’r tri rhosyn yn eu gwahanu. Tybed i ba raddau roedd y disgrifiad hwn yn ddyledus i’r darlun a wnaeth Moses Griffith o’r gofeb ac a gynhwyswyd yn ddiweddarach gan Pennant yn ei gyfrol loffion o’r Teithiau yng Nghymru?
Dim ond cael ei enwi wrth basio, fel petai, a wnaeth Glan-llyn yn nyddiadur taith 1770. Wrth i Pennant deithio i gyfeiriad y Bala, nododd ei ymwybyddiaeth o gartrefi Syr Watkin Williams Wynn yn yr ardal, sef Caer Gai a ‘Glan a Llyn another seat’. Fel y gŵyr trigolion Penllyn, y mae dau adeilad ar lan Llyn Tegid sy’n hawlio’r enw ‘Glan-llyn’: fferm, sy’n gartref i faes gwersylla helaeth ar lan y dŵr, a phlasdy, sy’n wersyll o fath gwahanol – Gwersyll Urdd Gobaith Cymru – fry ar y boncyn uwch ei ben. Fel y mae ymchwil gan Michael Freeman i gofnodion teithwyr i Gymru yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi dangos, yr oedd Syr Watkin wedi adeiladu tŷ newydd ym mhen pellaf y llyn erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. ‘We … rode as far as Sir Watkin W. Wynne’s new house at the end of the Lake – a heavy gloomy building, and from its scite [sic], losing almost all the fine features which Vachddeiliog commands’, nododd Richard Fenton ym mis Mehefin 1804. Fel ‘a very neat summer-box’ y disgrifiodd yr arlunydd Edward Pugh Fachddeiliog, a godwyd gan Syr Richard Colt Hoare ar ben ac ochr arall Llyn Tegid. Â’i olygfeydd ysblennydd o’r llyn ac o Arenig Fawr, nid oes amheuaeth nad yw lleoliad tŷ haf Colt Hoare yn rhagori ar safle Glan-llyn, ond y mae’n dal braidd yn annisgwyl gweld lleoliad Gwersyll yr Urdd yn cael ei ddisgrifio mor negyddol. Beth bynnag am hynny, y mae geiriau Fenton yn torri’r ddadl ynghylch pa un o’r ddau Lan-llyn oedd yn sefyll pan ymwelodd Pennant â Phenllyn yn 1770. Fel ‘an old house near the water edge’ y disgrifiodd Pennant y Glan-llyn a welodd ef yn fersiwn gyhoeddedig ei Deithiau, felly y mae’n amlwg mai at Fferm Glan-llyn – sy’n cael ei henwi fel ‘Hen-glan-llyn’ ar fap Ordnans o tua 1900 – y cyfeiriai. Fe fûm i ar ymweliad â’r ddau safle: mwynhau cerdded mor agos at y dŵr ger yr Hen Lan-llyn, ac ailfyw atgofion plentyndod o ymweld â Gwersyll yr Urdd yn achos yr ail. (Cerdded i fyny grisiau carreg oer wedi ein cyfarwyddo i ddiosg ein hesgidiau er mwyn mynd i’r ystafelloedd newid heb faeddu’r llawr sy’n dod i’r cof gryfaf, gwaetha’r modd!)


Nid yw’n syndod gweld diddordeb Pennant yng Nghaer Gai: ‘ the name savors of antiquity; perhaps a roman station’. Ymhelaethodd mewn nodiadau pellach, gan holi a oedd unrhyw berthynas rhwng ‘Cai’ y gaer a thad maeth i’r brenin Arthur (‘Quaere what Credit is due to the story of its being the Residence of one Gai Arthur’s Foster Father’). Yn y Teithiau (1778), gallodd gefnogi’r ddamcaniaeth ynghylch cysylltiadau Rhufeinig Caer Gai drwy gyfeirio at waith yr hynafiaethydd William Camden. Tynnodd sylw yn ogystal at fanteision y safle (‘it is certain, that it had been a fortress to defend this pass, for which it is well adapted, both by situation, and form of the hill’), er nad yw’n ymddangos ei fod yn gwybod am y ffordd Rufeinig a’i cysylltai â Chaersws yn y canolbarth, a chaer bwysig Segontium yn Arfon. Allwn ni ddim ond dyfalu ai sgyrsiau â thrigolion Penllyn a roddodd iddo’r wybodaeth ynghylch yr holl ddarnau arian a ganfuwyd yn yr ardal ac a gynigiai dystiolaeth bellach mai caer Rufeinig oedd Caer Gai. Nid yw’n ymddangos fod Pennant wedi ymweld yn 1770 nac ychwaith, o bosibl, yn ystod taith 1773. Efallai nad oedd Syr Watkin gartref ar y pryd, ond petai wedi mynd, byddai wedi cael cadarnhad pellach o’r berthynas â’r Rhufeiniaid drwy sylwi ar y defnydd o gerrig coch, nodweddiadol o’u caer ddylanwadol ar ororau Cymru, Deva Victrix (Caer), yma a thraw yn adeiladwaith y plasdy mawreddog a thrawiadol sy’n sefyll ar y safle heddiw. Ar ddiwrnod fy ymweliad i a Chymdeithas Hanes Sir Feirionnydd â Chaer Gai, cawsom gyflwyniad gan yr hanesydd Beryl Griffiths i’r adeilad a’r gaer yn y cae y tu ôl iddo, cyn mynd i lawr i’r pentref i wrando ar ddarlith Beryl ynghylch Rowland Vaughan, trigiannydd enwocaf y plas, un y mae ‘cof amdano yn dal ar dafodleferydd yn Llanuwchllyn hyd heddiw’. A Pennant, yntau, yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth rhyfeloedd cartref y ganrif a ragflaenai ei gyfnod ef, digon tebyg y byddai hanes y brenhinwr pybyr hwn, cyfieithydd Eikon Basilike’r Brenin Siarl i’r Gymraeg, wedi bod o ddiddordeb iddo. Ysywaeth, nid yw Vaughan i’w weld ar dudalennau’r Teithiau.

Ac wedi’r teithio yn ardal Llanuwchllyn, dychwelyd i gyfeiriad y Bala fu fy hanes i ar bob un o’r ymweliadau. ‘The ride along the Lake fine. its sides well cultivated, & diversified with small woods. The mountains low & green …’.
Darllen pellach:
• dienw, ‘Caer Gai’, Coflein [mynediad ar 30 Ionawr 2020]
• dienw, ‘Hengwrt House, Llanelltyd’, Coflein [mynediad ar 30 Ionawr 2020]
• Freeman, Michael, ‘Early Tourists in Wales: 18th and 19th century tourists’ comments about Wales’ [mynediad ar 30 Ionawr 2020]
• Griffiths, Beryl, ‘Rowland Vaughan (c.1590–1667), Caergai: “Prydydd a Chyfieithydd Wyf” ‘, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, XVIII, rhan I (2018), 45–76
• Griffith, Moses, ‘Hengwrt’, dyfrlliw a phensel ar bapur, Amgueddfa Cymru, NMW A 16914
• Llewelyn, Haf, ‘Y Dyn Carreg’, yn Richard Outram, Enaid Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2019), tt. 32–9
• Pennant, Thomas, A tour in Wales 1770 [1773] (2 gyf., London: Henry Hughes, 1778, [1781, 1783])
• idem, ‘Tours in North Wales’, llsgr. LlGC 2532B
• idem, The Journey to Snowdon, fersiwn wedi darlunio, Llyfrgell Genedlaethol Cymru [mae darlun Moses Griffith o Ieuan ap Gruffudd ap Madog ar t. 76] [mynediad ar 30 Ionawr 2020]