Norman Closs Parry
Yn ogystal â gweithredu fel Llywydd Cymdeithas Thomas Pennant, rwyf hefyd yn gwisgo het arall, sef Cyfarwyddwr Cymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni yn Eryri. Dwi wrth fy modd, felly, pan fydd fy nau ddiddordeb yn dod at ei gilydd!
Ar ymyldudalen un o gyfrolau swmpus y Teithiau yng Nghymru, a wnaethpwyd gan Pennant ar gyfer ei lyfrgell ei hun, gwelir y llun isod:

Torgoch, Teithiau Addurnedig Thomas Pennant, trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Torgoch ydy hwn, neu ‘Welsh Char’ (Salvelinus alpinus perisii), pysgodyn hynod hardd a phrin, ‘relic’ o oes yr iâ sydd i’w weld yn llynnoedd Eryri hyd heddiw. Mae’n amrywiad o’r ‘Arctic Char’ sy’n byw yn Ardal y Llynnoedd, ac yn ucheldiroedd yr Alban (ac yn wir, mae Pennant yn tynnu sylw at y pysgodyn hwn wrth ymweld â Loch Ness). Mae llun Moses Griffith ohono fan hyn yn ardderchog, ac yn dangos unwaith eto ei ddawn i sylwi ar fywyd gwyllt a’i gofnodi.

Torgoch o Lyn Padarn (llun H.P.Hughes)
Yn y rhan o’i Deithiau a elwir The Journey to Snowdon mae Pennant yn disgrifio ardal llynnoedd Llanberis, gan nodi am yr un uchaf: ‘it is said to have abounded with char, before they were reduced by the streams flowing from the copper mines, which had been worked on the sides of the hills’ (t.158). Ychydig ymhellach yn ei daith, mae’n cyrraedd Llyn Cwellyn, ‘a water famous for its Char, which are taken in nets in the first winter months, and after that season retire to the inaccessible depths’ (t. 222).
Mae’r sylwadau hyn dangos ymwybyddiaeth Pennant o sgil-effeithiau llygredd dynol ar fyd natur (pwnc sydd, yn anffodus, yn dal i fod yn gyfredol yn achos y torgoch heddiw, yn Llyn Padarn yn enwedig). Ond diddorol hefyd yw gweld cyfeiriad at arferiad lleol o ddal y pysgod mewn rhwydau, yn eu niferoedd, pan oeddynt ar y teneuau (shallows) yn ymbaratoi i gladdu (spawn) yn ystod y misoedd oer. Rydym yn gwybod i’r un peth ddigwydd yn ardal Llanberis, ac yn medru dweud felly bod brodorion Eryri wedi hela torgochiaid torrog (gravid), a bod niferoedd y pysgod yn amlwg wedi bod llawer uwch ddwy ganrif yn ôl. Mae pryderon yn bodoli o hyd am ddyfodol y creadur hardd yma, ond mae’n dda gen i ddweud bod ymgais diweddar i drawsblannu rhai poblogaethau i lynnoedd eraill yn ardal Eryri yn ymddangos yn llwyddiannus.
Yn ôl fy ‘mentor’ pysgodyddol, Robert Jones Tŷ Coch Bryn’refail, roedd traddodiad yn nyffrynnoedd Gwyrfai a Peris i biclo torgoch, megis penwaig! (Sy’n atgoffa rhywun o ‘potted charr’ enwog ardal y Llynnoedd ger Coniston a Windermere).

Yr awdur yn pysgota ar Lyn Padarn (llun H.P. Hughes)
Trydedd het dwi’n ei gwisgo yw fy het farddol. I gloi, felly, dyma ychydig o gerddi. Yn gyntaf, englyn newydd, am waith cywrain Moses Griffith. Wedyn, cerdd sy’n talu clod i’n ‘Relic’ hynod; ac i’w dilyn, llinellau’n sy’n dathlu Pennant a’i ddisgrifiad bywiog o un o drigolion enwocaf ardal Llynnoedd Peris, yr ‘Amazon’ Marged Uch Ifan:
Moses Griffith
Daliodd ar ymyltudalen – hen wyrth
prydferthwch ei elfen.
hud y wawrai dor oren.
Relic
(Myfyrdod am y Torgoch – Salvelinus alpinus perisii – wedi’r cyhoeddusrwydd am ddyfodol y pysgodyn oherwydd yr algae yn Llyn Padarn)
Yma, cartre’th hil ers deng mil a mwy
o flynyddoedd er pan glowyd y cwm
â dorau rhewlifiad symudodd drwy
Peris a Phadarn o’r mynyddoedd crwm
Fel ’r eogiaid oeddynt – o’r moroedd brâs
yn ôl i’r feithrinfa’n y bala bêr
gwybod yn d’ymysgaroedd – lif a blas –
’dyma yr hen le’ dan gromell y sêr.
Dy dor coch-fachlud dan wyrddlas dy gefn
Ddenodd ’r henafiaid cyntefig y graig
i bwytho ecoleg parthau i’r drefn
â phatrwm amser dy dymhorol saig.
Esgeulustod cibddall ein dyddiau ni
Heddiw yw croesffordd i’th yfory di.
Ôl-nodyn: bala = enw daearyddol am yr ardal neu’r cysylltiad rhwng llyn a llyn. Yn yr hen Bennill enwog ceir llinell: ‘Yn y bala mae hi’n bydio’ (h.y.,byw).
“Brenhines y Llynoedd” (Marged Uch Ifan)
Thomas Pennant, Taith Eryri
Bu’n gwmpeini cyson drwy mlwyddi brau
Pan rodiwn lannau Padarn am Ben’llyn
Onid oedd ysbrydion amdana i’n cau
O bob cyfeiriad yn y broydd hyn?
Ei hanes glywais o wefusau’n ‘Sgolar Bro’
Ysgol-wythnosol am gewri yr hen le.
Ac arogl lamp oel yn drwm o dduwch to
Y festr fach…annatod yw o’m gwe.
Cadd ei chofiannydd – Pennant – artist gwych
Yn sbarc i’r co; gweithredodd hon bo un
A’i nerth anferthol a’i medrau – yn ddrych
I gampau’I byw. Mor fyw o hyd yw’r fun
Nes ambell nos dychmygaf glywed sŵn
Ei llasi o’r ‘Lidir Fawr’ – yn hysio’i chŵn!
Darllen pellach
Norman Closs, Cerddi’r garreg ateb
Y Naturiaethwr: cyf 2, rhif 2 1997 t. 3. & cyf 5 rhif 2 (1999) t. 9.