Outlines of the Globe

‘Dyna sut mae cyfnod prysur fy mywyd wedi ei fyw … a minnau wedi cyrraedd hyd at hanner ffordd drwy fy nhrigain a seithfed blwyddyn. Efallai fod egni arferol fy nghorff wedi gwanychu; ond mae fy meddwl yn dal yn effro, yn hiraethu am welliannau, yn dymuno cael ei oleuo drwy’r rhigolau a wnaed gan amser. Ychydig flynyddoedd yn ôl deuthum yn hoff o deithiau dychmygol, a phenderfynais ddilyn un i fannau mwy addas eu hinsawdd ar gyfer gŵr o’m hoedran i …’ 

Dyma sut y cyflwynodd Thomas Pennant ei brosiect llenyddol mawr olaf yn ei hunangofiant, The Literary Life of the Late Thomas Pennant , Esq. (1793). Gwaith braidd yn ecsentrig oedd ‘Outlines of the Globe’, awgrymodd (‘Efallai y bydd y darllenydd yn gwenu o weld mawredd y cynllun’), ond mae cyfrolau llawysgrif yr ‘Outlines’, tuag un ar hugain ohonynt — gan gynnwys dwy a gyhoeddwyd yn ystod oes Pennant — yn fwy na phrosiect ymddeol direol hen ŵr. Mae’r gwaith a alwodd ei ‘magnum opus’, sy’n cynnwys cyfres o fordeithiau ‘delfrydol’ o amgylch Ewrop, Rwsia, Affrica, Asia, Awstralia, ac Ynysoedd y De, yn hynod uchelgeisiol. Ceisir ynddo gasglu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhannau sylweddol o’r byd, gan fanteisio ar lyfrgell lawn yr awdur a’i rwydwaith trawiadol o deithwyr, yn ffrindiau a gohebwyr. Mae’r cyfrolau hefyd yn dangos croestoriad prosiect ymoleuedig Pennant â’r ysfa imperialaidd Ewropeaidd i gynhyrchu gwybodaeth, ac yn rhoi cyfle iddo ef, ac i ninnau, feddwl am ei deithiau ‘cartref’ yn llawnder eu cyd-destun byd-eang.  Creodd Pennant y rhan fwyaf o’r ‘Outlines’ yn negawd olaf ei fywyd, gan ddechrau o ddifrif tua 1788. Cwbl arwyddocaol yn ei feddwl oedd y newid o deithio real (y math a oedd wedi esgor ar y teithiau yn yr Alban a Chymru o ddiwedd y 1760au i ganol y 1780au) i deithio cadair freichiau, mwy addas i ŵr a oedd yn hynod ymwybodol ei fod ar drothwy henaint neu’r ‘flwyddyn enbyd’, fel y’i galwodd. Fodd bynnag, nid oedd y dull cadair freichiau hwn yn ddigynsail yn ei yrfa: mae Pennant yn cydnabod un o’i weithiau cynharach, yr Arctic Zoology (1784-5), fel model ar gyfer yr ‘Outlines’, ond mae’n ymestyn y ffocws daearyddol y tro hwn ‘i hinsoddau sy’n fwy addas i’m blynyddoedd i, yn fwy tyner na hinsawdd y Gogledd rhewllyd’. Ei gyrchfan wreiddiol oedd India, man yr oedd pawb yn ffoli yn ei gylch, meddai yn 1791 – a dwy gyfrol ar ‘Hindoostan’ oedd yr unig rai i ymddangos mewn print cyn ei farwolaeth. Ond mae’r gyfres olaf o gyfrolau yn ymestyn hyd yn oed ymhellach i’r dwyrain, i ‘Ynysoedd Malaysia’, Tsieina, Japan, ac Ynysoedd y De: fel gyda’i deithiau cynharach, a aeth trwy sawl argraffiad ac ehangiad, roedd yn anodd gwrthsefyll yr awydd i ychwanegu rhagor o ddeunydd. Gallai cyfeirio at Arctic Zoology fel model awgrymu triniaeth naturiol-hanesyddol yn bennaf, ond nododd Pennant yn y Literary Life ei bod yn fwriad ganddo ‘roi’n gymysg [â’r] hanes … adroddiadau ynglŷn â’r arfordiroedd, hinsoddau, a phopeth y credais allai addysgu neu ddifyrru’. Gwnaeth yn hysbys hefyd iddo ddefnyddio gwybodaeth o sylfeini mor eang â phosibl – yn eu plith ‘lyfrau hynafol a modern’ ac adroddiadau uniongyrchol gan gyfoeswyr – a broliodd fod y cyfrolau llawysgrif wedi’u ‘darlunio, ar draul enfawr’ â phrintiau a gweithiau celf gwreiddiol (llawer ohonynt wedi’u llunio gan Moses Griffith). Nid yw’r rhagymadrodd hwn i’r ‘Outlines of the Globe’, yng ngeiriau Pennant ei hun, ond yn rhoi cipolwg pryfoclyd o gwmpas a manylder y gwaith: roedd yn fenter aruthrol, ac mae’n parhau i fod yn elfen o waith Pennant na chafodd ei gwerthfawrogi’n llwyr na’i chyhoeddi’n llawn. Ers gwerthu llyfrgell Downing yn 1938, cartrefwyd ‘Outlines of the Globe’ yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, wedi’i rifo P/16/1–25 yng nghatalog yr amgueddfa, rhif sy’n cynnwys blwch o ddetholiadau a deunyddiau amrywiol cysylltiedig (/25), yn ogystal â dwy gyfrol nas defnyddiwyd (/16 a /21). Bwriadwyd y gyntaf o’r cyfrolau gwag hyn ar gyfer hanes arfordiroedd gorllewinol America, y trefedigaethau Prydeinig, a’r Unol Daleithiau, ac fe’i disgrifiwyd gan Pennant fel ‘y rhan sy’n weddill o’r Rhagymadrodd i Arctic Zoology, wedi’i ymhelaethu’. Mae’r Arctic Zoology ei hun i’w weld yn ‘Outlines of the Globe’ (/24) ar ffurf cyfrol o ail argraffiad 1792 wedi’i darlunio (‘extra-illustrated’), ac yn cynnwys sawl plât ychwanegol. Er gwaethaf awgrym Pennant i’r prosiect gael ei greu, yn rhannol, er ei ddifyrrwch ei hun, roedd yr ‘Outlines’ mewn gwirionedd yn ymdrech ysgolheigaidd hynod uchelgeisiol ac eang ei chwmpas. Fe’i lluniwyd gan ddyn dros ei drigain mlwydd oed a oedd, serch hynny, yn holliach yn feddyliol, a chanddo’r gallu i gasglu gwybodaeth oddi wrth lu o gysylltiadau masnachol ac imperialaidd, yn eu plith naturiaethwyr o Lychlyn, Rwsia, a Bengal, barnwyr trefedigaethol a gweithwyr i Gwmni India’r Dwyrain, ysgrifenyddion y Morlys, masnachwyr coffi, a chaethiwyddion. Fel y dengys y rhestr hon, mae’r ‘Outlines’ yn brosiect sy’n aml yn ymwneud yn ddwfn â gwladychiant Ewropeaidd y cyfnod hwn, ac yn cynnig cipolwg ar berthynas Pennant ei hun â hanfodion y byd imperialaidd: er ei fod weithiau’n ddig neu’n amwys ynghylch gormes drefedigaethol mae, serch hynny, wedi’i wreiddio’n ddwfn o fewn fframweithiau grym imperialaidd. Wrth i ‘Outlines of the Globe’ ddod i sylw arbenigwyr o amryfal ddisgyblaethau – o hanes i astudiaethau o fyd natur, hanes celf, daearyddiaeth, a chartograffeg – a chael ei ystyried o safbwyntiau sy’n cael eu mygu gan rym ysgubol ei agweddau Ewropeaidd, dylai fod yn drysorfa o wybodaeth am le Cymru a Phrydain ym myd y ddeunawfed ganrif.