Y Mapiau

Go to the map

Gwefan Teithwyr Chwilfrydig: Y Mapiau

Yn ogystal â darlunio ei deithiau gyda nifer o blatiau topograffig a rhai’n ymwneud â byd natur, paratôdd Pennant fap newydd o’r Alban i gyd-fynd â chyhoeddi Rhan 2 ei Daith yn yr Alban 1772 – tipyn o gamp ynddi’i hun, er nas cwblhawyd y map hyd 1777, flwyddyn wedi i’r gyfrol gael ei chyhoeddi.[1] Cynrychiolir dimensiwn cartograffig teithiau Pennant, fel testunau ac fel gweithredoedd cylchdeithiol, gan y mapiau hyn, a ddatblygwyd gan Nigel Leask ac Alex Deans mewn cydweithrediad â Chris Fleet yn adran mapio Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.

Dengys y mapiau deithiau Pennant drwy’r Alban yn 1769 ac 1772, gan gynychioli safleoedd allweddol yr ymwelwyd â hwy gyda smotiau lliw, a threfn a chyfeiriad y teithio gyda rhifau a saethau. Cynrychiolir hwy ar sgrîn glosio wedi’i hollti sy’n dangos eu safleodd ar fap modern wedi’i geo-gyfeirnodi (sgrîn chwith), a gysylltir â phedwar map hanesyddol a addaswyd yn arbennig at y pwrpas (sgrîn dde). Gan nad oedd mapiau cynnar yn cael eu geo-gyfeirnodi, roedd yn well gennym ddangos y teithiau ar fap modern, a defnyddio sgrîn gyfochrog. Gall defnyddwyr ddewis rhwng map Dorret, 1750, map Pennant ei hun, 1777, map Arrowsmith, 1807, a map cynharaf yr Arolwg Ordnans o’r Alban. Er mwyn galluogi cymhariaeth gyda thaith ddylanwadol arall o’r cyfnod, rydym hefyd yn dangos hynt Dr Johnson a James Boswell yn 1773. Teithiau Pennant a Johnson, ill dau, oedd mor agos o ran cyfnod ac yn aml yn trafod yr un lleoliadau, oedd sail ein harddangosfa yn Nhŷ Dr Johnson yn Llundain (2018-19). Gallwch ddarllen ein catalog o’r arddangosfa yma.

Sut i ddefnyddio’r map

Wrth glicio ar smotyn penodol daw llabed i’r golwg sy’n rhoi manylion ynghylch dyddiadau ymweliad Pennant, disgrifiad byr o’r fan, a chyfeiriad llyfryddiaethol at ei ddwy Daith gyhoeddedig yn yr Alban. (Cyfyngir yr wybodaeth a ddarperir ynghylch taith Johnson i fan a dyddiad.) Fe’n galluogir o ganlyniad i ddarlunio’r gwahaniaethau rhwng dwy daith Pennant, yn ogystal â’r modd y gorgyffyrddent ac y gwahaniaethent oddi wrth rai Johnson a Boswell, ac i ddangos sut y mae’r holl deithiau’n edrych ochr yn ochr â detholiad o fapiau hanesyddol. Gan nad yw rhai o’r mannau a grybwyllir gan ein teithwyr o’r ddeunawfed ganrif yn bodoli bellach ar fapiau modern, y mae’r mapiau hanesyddol yn ein galluogi i ail-greu’r dopograffeg gyfoes, gan ailddarganfod, yn aml, fannau ac enwau a aeth yn angof.

Y mae’r gwaith ar fapio’r Alban yn cwblhau allbynnau digidol craidd y prosiect, sef y detholion o drawsgrifiadau o ohebiaeth Pennant, a chasgliad o deithiau mewn llawysgrif yn yr Alban a Chymru, nas cyhoeddwyd o’r blaen. Codiwyd y llythyrau a’r teithiau llawysgrif ar ffurf XML ar gyfer eu cyhoeddi ar y we. Yn ogystal ag adlewyrchu arfer da cyfredol ym maes y dyniaethau digidol, y mae’r dechneg hon yn ein galluogi i ddal gafael ar ffurfiau gwahanol y ddeunawfed ganrif ar enwau lleoedd, ac yn ei gwneud yn rhwydd i ddefnyddwyr chwilio am fersiynau safonol modern – darpariaeth ymarferol hanfodol wrth ymdrin ag enwau lleoedd Cymraeg a Gaeleg yr Alban, sy’n aml yn cael eu sillafu’n ffonetig gan rai nad oeddent yn siaradwyr brodorol: tystiolaeth o ymgyfarfyddiadau trawsddiwylliannol a fydd yn cael ei diogelu gan ein trawsgrifiadau. Fe hoffem ddiolch yn arbennig i Chris Fleet am roi cymaint o’i amser a’i arbenigedd i gynorthwyo i greu tudalen y map. Y mae cynlluniau ar droed i greu map yn dangos teithiau Pennant yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.

Go to the map

[1] Gw. Gwyn Walters, ‘Thomas Pennant’s Map of Scotland, 1777: A Study in Sources, and an Introduction to George Paton’s Role in the History of Scottish Cartography’, Imago Mundi: The Journal of the International Society for the History of Cartography, 28/2 (1976), 121–8.