Tsieina

Ariannwyd yr adnoddau a gyflwynir yn yr adran hon o wefan y Teithwyr Chwilfrydig drwy Grant Bach a ddyfarnwyd i Dr Ffion Mair Jones gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2022).

Sail y prosiect yw adroddiad Thomas Pennant ynghylch Tsieina – rhan o gyfrol 17 ei ‘Outlines of the Globe’, gwaith ar ffurf llawysgrif a gedwir yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, Greenwich (P/16/17). Mae’r adnoddau’n cynnwys ysgrif yn cyflwyno adroddiad Pennant ynghylch Tsieina; Atodiad Delweddau, ag ynddo ddelweddau o’r llawysgrif ynghyd â thrafodaeth o’u cyd-destun; a map rhyngweithiol, sy’n dangos y mannau a enwir yn yr adroddiad, gan ganolbwyntio ar bum taith hanesyddol allweddol ac ar daith ddychmygol Pennant ar hyd arfordir Tsieina. At hyn, arddangosir y delweddau o’r Atodiad Delweddau (â’r teitlau wedi’u hatgynhyrchu yn y Saesneg gwreiddiol) ar ffurf oriel, isod.

Atgynhyrchir y delweddau uchod drwy ganiatâd yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol.