‘. . . Yr ydym yn ddyledus i’r gŵr bonheddig hwn am y teithiau cynharaf yn yr Alban sydd werth eu darllen neu’u cadw . . . Fe arweiniodd y ffordd at ddiddordeb cyffredinol mewn teithiau cartref, rhywbeth sydd wedi dod â bri i unigolion ac wedi bod o fudd i’r cyhoedd.’
William Fordyce Mavor, The British Tourists (1798)
Roedd teithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban yn gatalyddion o bwys ar gyfer y cannoedd o deithiau a’u dilynodd yn yr hanner can mlynedd nesaf. Cyhoeddwyd rhai o’r teithiau hyn yn y cyfnod, a daethant yn weithiau pwysig yn eu hawl eu hunain, ond y mae llawer rhagor yn dal ar ffurf llawysgrifau o hyd, mewn llyfrgelloedd ac archifdai drwy Brydain. Nod ein prosiect yw dilyn hynt dylanwad Pennant ar deithwyr dilynol i Gymru a’r Alban drwy greu corff chwiliadwy ar lein o’r teithiau anghyhoeddedig hyn. Bydd ein gwefan yn cyflwyno oddeutu trigain taith, pob un gyda rhagarweiniad byr i’w lleoli yn ei chyd-destun, ynghyd â mapiau a darluniau cyfoes. Bydd llyfryddiaeth lawn o deithiau y gwyddys eu bod yn goroesi hefyd yn gymorth ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Y mae teithiau cartref yn amrywio yn eang o ran hyd, llwybr, ffocws ac arddull, a bydd y detholiad ar gyfer prosiect y ‘Teithwyr Chwilfrydig’ felly yn cynnwys testunau sy’n cyfuno hanes natur, hynafiaetheg, llenyddiaeth, diwylliant gweledol, hanes, estheteg neu wleidyddiaeth mewn amryfal ffyrdd. Y mae’r corff yn ei gyfanrwydd yn debyg o drawsnewid ein dealltwriaeth o dwristiaeth gartref yn y cyfnod. Yr oedd y daith ddomestig yn genre eithriadol o lwyddiannus – yn ail i nofelau a rhamantau yn unig – ond ychydig, yn gymharol, o astudio sydd wedi’i wneud arno. Y mae ymateb confensiynol i’r genre fel ffenomen wedi dadlau i’r rhyfel yn erbyn Ffrainc wneud cyfandir Ewrop yn anhygyrch gan achosi i deithwyr i’r cyfandir ddewis teithio gartref (‘mân-deithio’) yn hytrach.Y mae gwaith newydd ar deithio byd-eang yn y ddeunawfed ganrif, yn enwedig ar archwilio’r Môr Tawel, yn awgrymu bod dylanwadau mwy eang ar deithiau cartref nag a gydnabuwyd yn y gorffennol – dylanwadau mor amrywiol ag ethnograffeg a hynafiaetheg yr Oes Oleuedig.
Bydd ein casgliad o destunau newydd o’r cyfnod yn ein galluogi i egluro yn llawer mwy manwl pa ran a chwaraeid gan dwristiaeth gartref yn y proses o adeiladu hanes a hunaniaethau cenedlaethol, a hynny yng nghyswllt ‘pedair gwlad’ Ynys Prydain ac fel rhan o gyd-destun ehangach. Wrth ystyried sut y mae’r teithiau a ddewisiwyd yn cynrychioli Prydain yn y cyfnod ac yn hanesyddol, bydd y prosiect hefyd yn archwilio i ba raddau yr oedd teithwyr yn ymateb i’r diwylliannau Celtaidd brodorol, gan gynnwys elfennau megis iaith, barddoniaeth a chân, ac yn gofyn beth oedd dylanwad syniadau cyfoes arnynt, mewn meysydd mor amrywiol â gwyddoniaeth a’r celfyddydau.