Mae Thomas Pennant (1726 –1798), naturiaethwr, awdur a hynafiaethydd, yn adnabyddus oherwydd yr adroddiadau a gyhoeddodd ynghylch ei deithiau arloesol drwy Ynysoedd Prydain. Plasty Downing ger Chwitffordd, Sir y Fflint, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, oedd stad y teulu, ac yno y ganed ac y trigai Pennant. Fe’i haddysgwyd yn Wrecsam a Rhydychen.
Mae cyhoeddiadau Pennant ym maes hanes natur yn cynnwys gweithiau megis British Zoology, History of Quadrupeds, ac Arctic Zoology. Roedd yn sylwedydd maes craff, a chasglai sbesimenau o blanhigion, mwynau, adar ac anifeiliaid. Ond roedd ei wybodaeth o fyd natur yn ddibynnol yn ogystal ar rwydwaith rhyngwladol eang yn cynnwys gwyddonwyr mwyaf blaenllaw ei gyfnod – ymhlith ei ohebwyr roedd gwŷr megis Linnaeus, Joseph Banks a Gilbert White o Selbourne. Roedd Pennant yn hynafiaethydd brwd, a chanddo ddiddordeb yn yr olion a’r arteffactau Rhufeinig o amgylch Caer a chwilfrydedd pellgyrhaeddol ynghylch gorffennol Prydain. Roedd yn frwd o blaid gwelliant economaidd ac yn gefnogol i dwf diwydiant (fe agorodd gloddfa blwm ar ei stad ei hun), ond ar yr un pryd yn geidwadol yn wleidyddol, ac yn fwyfwy adweithiol yn ystod y degawd o aflonyddwch a ddaeth yn sgil y Chwyldro Ffrengig. Er gwaethaf hyn oll, dengys ei waith ei fod yn w^r meddylgar a haelfrydig, a feddai ar gydwybod cymdeithasol ac a deimlai i’r byw dros amgylchiadau tlawd rhai o’r bobl y daeth wyneb yn wyneb â hwy ar ei deithiau.
Cyhoeddodd Pennant adroddiadau ynghylch teithiau mewn sawl rhan o Brydain, ond fe’i cofir yn bennaf am ddwy daith gydolynol yn yr Alban yn 1769 ac 1772, y Tours in Scotland, ac am ei deithiau yng Nghymru, a gyhoeddwyd mewn rhannau rhwng 1778 ac 1784 o dan y teitl Tour In Wales. Teithiai ar gefn ceffyl, ar droed ac, yn Ynysoedd y Gorllewin yn yr Alban, mewn cychod. Uniongyrchedd y profiad, ynghyd â diddordebau lluosog ac amrywiol Pennant, sy’n sicrhau fod y teithiau hyn mor ddeniadol i’w darllen. Maent yn gyforiog o sylwadau a disgrifiadau sy’n dod â chymlethdodau bywiog Prydain y ddeunawfed ganrif yn fyw, a buont yn hynod ddylanwadol ar deithwyr diweddarch i Gymru a’r Alban. Drwy nawdd hirsefydlog Pennant i’r arlunydd Moses Griffith ac eraill megis John Ingleby a Paul Sandby, sicrhawyd fod y disgrifiadau ysgrifenedig yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â detholiad ysblennydd o dirluniau a miniaturau. Peintiwyd llawer o’r rhain yn uniongyrchol ar ddalennau wedi’u haddurno’n helaeth â lluniau ychwanegol o’r teithiau.
Priododd Pennant ddwywaith, ag Elizabeth Falconer (bu farw 1764), ac yn 1778 ag Ann Mostyn o Blasty Mostyn, y stad nesaf at Downing. Ganed dau blentyn o’r ddwy briodas, a’r mab hynaf, David, a etifeddodd y stad. Pan fu farw Pennant yn ddeuddeng a thrigain mlwydd oed fe’i cydnabyddid fel ffigwr llenyddol – ac yr oedd, drwy eironi dymunol, wedi dod yn ‘nodwedd’ ar lwybr ei Daith ei hun.