Ffion Mair Jones
Ym mis Awst 1788, dychwelasai Pennant i Downing wedi ymweliad â Lerpwl yng nghwmni ei wraig, Anne (née Mostyn). Fel yr oedd hi’n digwydd, ‘doedd o ddim yn teimlo’n rhy dda: roedd wedi’i daro gan y ffliw yn ystod ei arhosiad, a llythyr brysiog yn unig oedd ganddo i’w gynnig i’w gyfaill, y casglwr printiau Richard Bull o Stryd Stratton, Llundain, a North Court, Ynys Wyth. Adroddodd Pennant, serch hynny, ei fod yn ei waeledd wedi stryffaglu drwy longau’r caethion wrth y cei yn Lerpwl, gan nodi, yn gryno, mai ei unig sylw ynghylch y mater sobor hwnnw oedd ‘ein bod yn gafael mewn blaidd gerfydd ei glustiau’.
![William Jackson, 'A Liverpool Slave Ship' (National Museums Liverpool) BBC Paintings [1], Public Domain](http://curioustravellers.ac.uk/wp-content/uploads/2017/03/1-1-225x300.png)
William Jackson, ‘A Liverpool Slave Ship’ (National Museums Liverpool) BBC Paintings [1], Public Domain [link]
Roedd 1788 yn flwyddyn nodedig yn nechreadau’r achos ym Mhrydain i ddiddymu’r fasnach gaethweision: bwriadasai William Wilberforce ddwyn cynnig gerbron Tŷ’r Cyffredin o blaid gwneud hynny, a phan rwystrwyd ef gan salwch rhag cyflawni hynny, gorchmynodd William Pitt archwiliad i’r fasnach gan y Cyfrin Gyngor yn y lle cyntaf ac yna, ym mis Mai 1788, gan y Tŷ. Pasiwyd deddf hefyd i reoli’r niferoedd ar fwrdd y llongau oedd yn cludo caethweision er mwyn gwella’r amodau yr oeddynt yn eu dioddef, hynny drwy ymdrechion Syr William Dolben. Ac, erbyn mis Mai 1789 yr oedd Wilberforce wedi gwella ac yn barod i ymuno â brwydr y gwnaeth gymaint drosti, gan roi gerbron gynigion blynyddol yn ystod y 1790au dros ddiddymu’r fasnach.
Lerpwl a Richard Pennant, Barwnig Penrhyn
Yn y cyd-destun hwn y gwnaeth Pennant ei sylwadau ynghylch ffyrnigrwydd caethwasiaeth, gan fynd yn ei flaen i gydnabod fod ei deimladau ef ar destun y fasnach yn ‘rhyfeddol o ranedig’. Yr oedd agwedd Bull ar y mater yn fwy cadarn: pan gyhoeddwyd llythyrau Charles Ignatius Sancho, bachgen du a achubwyd yn ddwyflwydd oed rhag amodau erchyll caethwasiaeth, gan fynd yn ei flaen i redeg siop groser yn Westminster a phleidleisio yn etholiadau seneddol 1774 ac 1780 (yr unig ddyn o dras Affricanaidd i wneud hynny), roedd enw ‘Richard Bull, Esq.’ ar y rhestr o danysgrifwyr (er nad oedd enw Pennant, ysywaeth).

Thomas Gainsborough, ‘Igantius Sancho’,
Public Domain [link]
Dros ddegawd yn ddiweddarach, yng nghanol cyfnod cythryblus o chwyldro a rhyfela, mynegodd Bull ei falchder o fod yn Brydeiniwr a’i obaith y byddai hawliau pobl o bob dosbarth drwy’r byd yn cael eu cadarnhau drwy dra-arglwyddiaeth Prydain. Ac os oedd modd yn y byd, ategodd, ‘rwy’n gobeithio y bydd y fasnach gaethweision cyn hir wedi darfod amdani’. Beth, tybed, oedd agwedd Pennant at anfadwaith triniaeth Prydain o bobl dduon Affrica?
Gellid disgwyl o ystyried ei sylw yn ei lythyr at Bull ym mis Awst 1788 nad oedd Pennant yn ddiddymwr cadarn (bryd hynny, o leiaf), a’i fod yn gweld y darlun o safbwynt y masnachwyr yn ogystal â’r caethion. Wedi ymweliad â Lerpwl y flwyddyn flaenorol, nodasai Pennant fel yr oedd Corfforaeth y ddinas am wario £200,000 yn prynu strydoedd cyfan o dai gyda’r bwriad o’u dymchwel a’u hailadeiladu yn ysblennydd. Ni phasiodd farn ynghylch y darlun hwn o gynnydd, dim ond cofnodi’r ffaith, felly anodd yw gwybod a oedd yn gweld y cysylltiad rhwng cyfoeth Lerpwl a’i hymrwymiad cynyddol yn y fasnach gaethweision, ac os ydoedd, beth oedd ei deimladau ynglŷn â’r peth. Drwy ei berthynas â Richard Pennant, Barwnig Penrhyn o 1783 (roedd y ddau yn ddisgynyddion i un o abadau Dinas Basing yn y bymthegfed ganrif), byddai’n bur debyg o fod yn ymwybodol o rwystredigaethau’r masnachwyr wrth weld yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth yn codi stêm yn ystod y 1780au hwyr. Fe siaradodd Richard Pennant yn erbyn ymgyrch Wilberforce wrth iddi gychwyn yn 1787 ac amddiffynnodd y masnachwyr a’r planhigfawyr y flwyddyn ganlynol yn Nhŷ’r Cyffredin. Roedd y Barwnig Penrhyn yn ei gwneud hi’n ardderchog o enillion ei blanhigfeydd yn Jamaica, ac yn defnyddio’r elw i ddatblygu ei fusnes yn sir Gaernarfon, drwy gynyddu’r allbwn o’i chwarel yn sir Gaernarfon ac agor porthladd i allforio’r llechi oddi yno i Lundain, Lerpwl, Bryste, Hull, Iwerddon, Yr Alban a hyd yn oed i India’r Gorllewin, fel y nododd mewn llythyr at Pennant tua 1795.
![Henry Thomson, ‘Portrait of Richard Pennant, 1st Baron Penrhyn of Penrhyn, and his Dog Crab’ BBC Paintings, [[File:Richard Pennant Thomson 1790s.jpg|thumb|Richard Pennant Thomson 1790s]]](http://curioustravellers.ac.uk/wp-content/uploads/2017/03/3-190x300.png)
Henry Thomson, ‘Portrait of Richard Pennant, 1st Baron Penrhyn of Penrhyn, and his Dog Crab’
BBC Paintings, [[File:Richard Pennant Thomson 1790s.jpg|thumb|Richard Pennant Thomson 1790s]]
Yn ôl ei Tour in Wales yn 1778, yr oedd Pennant yn falch iawn o adrodd fod Castell y Penrhyn yn mynd i gael ei adfer i’w hen lewyrch wedi dyfodiad preswylwyr newydd (daeth rhan o’r stâd i feddiant y Barwnig Penrhyn wedi marwolaeth ei dad-yng-nghyfraith, y Cadfridog Hugh Warburton, yn 1771). Mae’n ymddangos fod hwn yn brosiect a barhaodd dros gyfnod gweddol hir: ym mis Medi 1790 adroddodd Pennant wrth Bull ei fod ar fin cychwyn ar siwrne ar y fferi ofnadwy dros afon Conwy i ymweld â’i ‘gyfaill da, yr Arglwydd Penrhyn’, oedd yn ei gymell ef a Mrs Pennant i ddod i weld ei hen gastell ar ei newydd wedd. Roedd Penrhyn yn dal i annog taith o’r fath mewn llythyr at Pennant tua 1795, pan honnodd ei fod wedi diwygio cryn dipyn ar y lle ers i Thomas Pennant ei weld ddiwetha’. Derbyniodd Pennant wahoddiad i gartref Penrhyn yn Winnington, swydd Gaer, yn ogystal. At hyn, anfonai Penrhyn gyfarchion teuluol caredig at Pennant, gan gydymdeimlo ag ef pan ddaeth profedigaeth i’w ran, a’i longyfarch ar achlysuron hapus. Roedd yn barod i ateb ymholiadau Pennant fel awdur teithlyfrau, hefyd. Mewn llythyr dyddiedig tua 1795, rhoddodd Penrhyn amlinelliad o sefyllfa ei fusnes fel perchen chwarel lechi, gan nodi cyfyngiadau ar y cynnydd yn ei ffigyrau allforio yn ystod 1795, diolch i’r rhyfel yn erbyn Ffrainc a chodiad yn y trethi. Efallai mai ymateb yr oedd Penrhyn yma i ymholiadau penodol oddi wrth Thomas Pennant, y math o holi yr oedd yn gyson yn ymgymryd ag o at ddiben cyflawni ei deithlyfrau, er nad ymddangosodd golygiad arall o’r Tour in Wales wedi i Benjamin White gyhoeddi ail argraffiad yn 1784. Mae gwybodaeth ynghylch y planhigfeydd yn Jamaica yn gwbl absennol o lythyr y Barwnig Penrhyn, fodd bynnag, a gellir cymryd na holodd Pennant ef ynghylch y rheini.
‘Amlinellau’r Byd’ a Joseph Plymley
Anodd dychmygu, serch hynny, na fyddai gan Pennant ddiddordeb ym mentrau Penrhyn yn India’r Gorllewin, ac ym mherthynas eu llwyddiant â thriongl y fasnach gaethweision a’i phegynau cychwynnol mewn dinasoedd megis Lerpwl ar y naill llaw, a gorllewin cyfandir Affrica ar y llaw arall. Yn ei lythyr at Bull ym mis Awst 1788 cyfeiriodd Pennant ei gyfaill at ei lawysgrif ar ‘Affrica’. Rhan oedd hon o ‘Outlines of the Globe’, ‘magnum opus’ Pennant, gwaith y bu wrthi’n ddyfal yn ei ysgrifennu a’i ddarlunio o 1788 ymlaen. Yr oedd yr ardal ar arfordir gorllewinol y cyfandir a ddioddefodd fwyaf oddi wrth y fasnach gaethweision yn hawlio sylw yn yr ‘Amlinellau’, sydd bellach yn cael ei gadw yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol (National Maritime Museum) yn Greenwich. Rhydd yr unfed gyfrol ar ddeg sylw i’r diriogaeth rhwng afon Senegal a Phenrhyn Negro, ac mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch y fasnach gaethweision. Os na theimlai Pennant y gallai holi ei berthynas o’r Penrhyn ynghylch materion ynghlwm wrth gaethwasiaeth, y mae’n bur sicr ei fod wedi cael hyd i rywun arall i’w holi ac i ddarparu’r wybodaeth a geisiai ar gyfer ei ‘Affrica’. Wedi’r cyfan, roedd Pennant yn ddyn ‘oedd yn ”nabod pawb”, chwedl Goronwy Wynne, ac o edrych ar ei waith a’i ohebiaeth, yn enwedig, gwelir fod ei gysylltiadau yn croesi ffiniau gwleidyddol, cenedlaethol a disgyblaethol dro ar ôl tro yn ei hanes.

Mynydd Parys: ‘Parys mountain. By Mark.murphy (Own work) [CC BY-SA 3.0 (http://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0)], via Wikimedia Commons
Un cysylltiad croes i’r cyswllt teuluol â Barwn Penrhyn oedd ei gyfeillgarwch â theulu Plymley o Longnor yn sir Amwythig. Bu Pennant yn gohebu ynghylch hanes byd natur â Plymley’r hynaf rhwng tua 1768 a 1774, ac o 1782 ymlaen roedd mewn cysylltiad yn ogystal â Plymley’r ieuengaf. Pan ysgrifennodd Katherine, chwaer i Plymley’r ieuengaf, yn ei dyddiadur ym mis Hydref 1791 fod Thomas Clarkson, un o enwau mwyaf blaenllaw y mudiad i ddiddymu’r fasnach gaethweision, wedi ymweld â chartref y Plymliaid yn Longnor, roedd hi’n nodi moment bwysig yn nechreuadau perthynas y teulu â’r ymgyrch. Etholwyd ei brawd, Plymley’r ieuengaf, yn aelod anghytrig (fel y byddai’r Cymmrodorion wedi dweud), o bwyllgor Llundeinig yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth y flwyddyn honno, a daeth yn gadeirydd y Gymdeithas er Diddymu’r Fasnach Gaethweision (Society for Effecting the Abolition of the Slave Trade, sefydlwyd 1787) yn sir Amwythig. Ymddiddorai yn ogystal yng ngwaith y Gymdeithas er Hyrwyddo Darganfod Rhannau Mewnol Affrica (Association for Promoting the Discovery of the Interior Parts of Africa), ac yma, heb os, roedd gan Thomas Pennant ddiddordeb mewn cyd-bererinio ag ef. Mae papurau Pennant yn cynnwys taflen brintiedig yn hyrwyddo’r Gymdeithas gan nodi ei hamcan, sef sicrhau archwilio pellach ar gyfandir Affrica. Mae llythyrau oddi wrth Plymley at Pennant yn 1792 yn adrodd ar waith mwnolegwyr a llysieuwyr yn Sierra Leone, lle’r ymsefydlodd cyn-gaethweision mewn ail wladfa Brydeinig o 11 Mawrth 1792 ymlaen. Cynigia Plymley, drwy ei gysylltiadau, ddisgrifiadau sy’n lleoli un darganfyddiad mewn cyd-destun cyfarwydd i Pennant, drwy gyffelybu bryn o haearnfaen yn Sierra Leone â’r mwyn copr ar Fynydd Parys.

Edward Pugh, ‘Paris Mines in the year in 1800’ (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) [link]
Nid yw’n syndod gweld Pennant wedi’i hudo gan ddarganfyddiadau newydd, cyfareddol, cyfandir Affrica, ond teg dweud nad esgeulusodd Plymley, yn ysbryd aelodau’r Gymdeithas er Hyrwyddo Darganfod Rhannau Mewnol Affrica, dynnu sylw at gaethwasiaeth yn Affrica yn ogystal. Mae llythyr at Pennant dyddiedig 1788 yn sôn am y fasnach, ac anodd credu na fu gan wybodaeth y gŵr o sir Amwythig lais yn sylwadau’r ‘magnum opus’ yn ei chylch.
CYFEIRIADAU
- ‘The Correspondence of Thomas Pennant and Richard Bull’: i’w gyhoeddi ar wefan ‘Teithwyr Chwilfrydig’
- Gretchen Gerzina, ‘Britain’s Black Past, Ignatius Sancho’, darllediad ar BBC Radio 4, 4 Hydref 2016 [ac ar yr iplayer]
- Letters of the Late Ignatius Sancho, An African. In Two Volumes. To Which Are Prefixed, Memoirs of His Life (2 gyf.; London: John Nichols, MDCCLXXXIII), cyf. 1 @ ‘Documenting the American South’ @docsouth.unc.edu/neh/sancho1/sancho1.html.
- Thomas Pennant, A tour in Wales. MDCCLXX (London: Henry Hughes, 1778)
- Thomas Pennant, ‘Outlines of the Globe’, National Maritime Museum, NMM MS P/16/1–25
- Thomas Pennant, History of the Parishes of Whiteford and Holywell (London: B. and J. White, 1796)
- Paul Evans, ‘The life and work of Thomas Pennant (1726–1798)’ (traethawd PhD anghyhoeddedig, Prifysgol Cymru, Abertawe, 1994)
- Goronwy Wynne, ‘Thomas Pennant: the man who knew everybody’, Denbigh and its past, rhif 23 (2008), 4–7
- ODNBg. Richard Pennant; Katherine Plymley; (Charles) Ignatius Sancho; William Wilberforce
- Archifdy Sirol Swydd Warwig: ‘Africa’, CR2017/TP33/1–13; llythyrau Richard Pennant at Thomas Pennant, CR2017/TP328/1–3; llythyrau Joseph Plymley’r hynaf at Thomas Pennant, CR2017/TP 333/1–10; llythyrau Joseph Plymley’r ieuengaf at Thomas Pennant, CR 2017/TP334/1–3
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsgr. LlGC 2594E, llythyrau Richard Pennant at Thomas Pennant