Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod prosiect newydd ‘Teithwyr Chwilfrydig’ yn cychwyn dan nawdd yr AHRC!
Bydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Glasgow a’r Natural History Museum, Llundain, yn cydweithio i greu’r golygiadau academaidd cyntaf o Deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban.

Prosiect yn torri tir newydd fydd ‘Teithwyr Chwilfrydig 2: Golygiadau Digidol o Deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban’. Gan gyfuno golygu testunol traddodiadol â thechnegau newydd o’r dyniaethau digidol, dyma fydd y golygiadau ysgolheigaidd cyntaf o deithiau Thomas Pennant (1726–98), naturiaethwr a hynafiaethydd o Downing, sir y Fflint. Byddant ar gael ar lein i ddefnyddwyr o bob math.
Bydd cydweithrediad ag ystod eang o bartneriaid yn caniatáu inni gysylltu’r testunau hanesyddol â delweddau a gwybodaeth o lyfrgelloedd cenedlaethol Cymru a’r Alban, National Maritime Museum, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Historic Environment Scotland.
Cafodd Teithiau Pennant ddylanwad mawr ar ddelweddu Cymru a’r Alban – dylanwad sy’n parhau hyd heddiw. Braint yw gweithio gyda’r Natural History Museum i archwilio sut roedd diddordebau Pennant fel naturiaethwr wedi gyrru ei deithiau. Mae’n gyfle gwych i roi bywyd newydd i’r testunau cyfoethog ac amlhaenog hyn.
Bydd tîm y Teithwyr Chwilfrydig hefyd yn cydweithio gydag ysgolion a chymunedau yn sir y Fflint ac Ynys Skye, ac yn cyd-drefnu arddangosfeydd â Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, a’r Gilbert White House yn Selbourne.
Rhagor o newyddion yn dilyn!