Arddangosfa newydd: Golwg ar Orllewin Affrica o Gymru: Gwaith newydd gan Mfikela Jean Samuel yn ymateb i ‘Outlines of the Globe’ gan Thomas Pennant (1726–1798): Storiel, Bangor, 4 Chwefror–15 Ebrill 2023.
Rhwng 2016 a 2019 trefnwyd dwy arddangosfa gan y prosiect:
Teithwyr Chwilfrydig: Symud, Tirlun, Celf. Gwaith 13 artist a ddarllenodd Tour in Wales gan Thomas Pennant, gan ddilyn rhan o’i deithiau yng Ngogledd Cymru. Teithiodd yr arddangosfa ei hun i dri safle gwahanol. Cewch ddarllen y catalog a blogiau’r artistiaid yma.

Teithwyr Chwilfrydig: Dr Johnson a Thomas Pennant ar Daith. Cynhaliwyd yr arddangsfa hon yn Nhŷ Dr Johnson, Llundain, Hydref 2018-Ionawr 2019. Archwiliodd deithiau’r ddau ddyn yn yr Alban yn 1770au cynnar: cewch ddarllen y catalog a darganfod mwy am yr arddangosfa a’r digwyddiadau cysylltiedig yma.
