Llyfryddiaeth fer i Deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban

gan Alex Deans (cyf. Ffion Jones)

Diben y llyfryddiaeth hon yw cynnig arolwg i’r darllenydd o hanes cyhoeddi pur gymhleth teithiau Pennant yn Yr Alban a Chymru. Ni honnir ei bod yn gyflawn: yr oedd cyfrolau print weithiau’n cael eu hailrwymo a’u tudalennau’n cael eu rhifo o’r newydd gan eu perchnogion, ac y mae anghsondebau llyfryddiaethol aneirif o’r herwydd. Serch hynny, y mae’r detholiad hwn yn dangos sut yr oedd y gweithiau hyn yn datblygu yn gyson, wrth i wybodaeth, darluniau ac atodiadau gael eu hychwanegu at bob golygiad newydd. Y mae hefyd yn dystiolaeth o ddiwydrwydd Pennant, ei hysbyswyr a’i gyhoeddwyr yn ystod y blynyddoedd 1771–84.

1] Tour in Scotland in 1769

(Sylwer: Mae map o dan y teitl ‘A Map of Scotland, the Hebrides, and Part of England adapted to Mr Pennant’s Tour’, wedi’i ysgythru gan J. Bayly a’i gyhoeddi gan ‘Benjamin White, 1st May, 1777’, wedi’i bastio i mewn i sawl copi o Deithiau Pennant yn 1769 ac yn 1772, hyd yn oed mewn copïau a gyhoeddwyd cyn 1777, sy’n awgrymu ei fod yn cael ei werthu fel eitem unigol a’i ludio yn y cyfrolau gan y prynwyr.)

a) Argraffiad 1af: A tour in Scotland. MDCCLXIX (Chester: argraffwyd gan John Monk, MDCCLXXI. [1771]). Octafo, viii + 316 tt, 18 plat, 7 atodiad + Braslun Taith (Itinerary), 316 tt.

b) 2il argraffiad: A tour in Scotland. MDCCLXIX. (London: argraffwyd dros B. White, yn Horace’s Head, yn Fleet-Street, MDCCLXXII. [1772]. Octafo, viii + 331 tt. Platiau ac atodiadau fel yn yr argraffiad 1af.

c) Supplement to the Tour in Scotland; MDCCLXIX. (Chester: argraffwyd gan John Monk, MDCCLXXII. [1772]). Octafo, 18 tt. Y mae hwn yn cynnwys gwallau, cywiriadau a nodiadau i argraffiad Caer y flwyddyn flaenorol.

d) 3ydd argraffiad: A tour in Scotland; MDCCLXIX. (Warrington: argraffwyd gan W. Eyres, MDCCLXXIV. [1774]. Argraffiad cwarto, xiv + 388 tt, 21 plat, 8 atodiad (yn cynnwys Braslun Taith). ‘A completely new set of plates and appendices.’

e) The additions to the quarto edition of the Tour in Scotland, MDCCLXIX. And the new appendix. Reprinted for the accomodation of the purchasers of the first and second editions. (London: argraffwyd dros B. White, yn Horace’s Head, Fleet-Street, MDCCLXXIV. [1774]. Octafo, 180 tt. Gyda 21 o blatiau, y 7 atodiad newydd a’r dudalen deitl engrafedig a gyhoeddwyd yn 3ydd argraffiad cwarto Warrington.

f) 4ydd argraffiad: A tour in Scotland; MDCCLXIX. (London: argraffwyd dros Benj. White, MDCCLXXVI. [1776]). Cwarto, 400 tt, 40 plat sy’n cyfuno’r rhai o’r argraffiadau 1af a’r 3ydd, atodiadau fel yn y 3ydd argraffiad (er ei bod yn ymddangos bod rhai copïau’n cyfuno atodiadau o’r argraffiadau 1af a’r 3ydd)

g) 5ed agraffiad: A tour in Scotland; MDCCLXIX. (London: argraffwyd dros Benj. White, MDCCXC [1790]). Cwarto, 400 tt. Platiau fel yn y 4ydd argraffiad, atodiadau fel yn y 3ydd argraffiad, ond bod amrywiadau, drachefn, mewn rhai copïau.

Cyhoeddiadau diweddar: Cyhoeddwyd ailargraffiad ffacsimili o’r 3ydd argraffiad (1774) gan Wasg Melven gyda rhagymadrodd gan Barry Knight (Perth: Melven Press, 1979); mae Gwasg Birlinn wedi ailargraffu argraffiad 1af 1771 gyda rhagarweiniad gan Brian D. Osborne (Edinburgh: Birlinn Ltd, 2000).

2] Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides 1772 (Rhannau I a II)

a) Argraffiad 1af (Rhan I): A tour in Scotland, and voyage to the Hebrides; MDCCLXXII [1772] (Chester: argraffwyd gan John Monk, MDCCLXXIV. [1774]. Cwarto, vii + 439 tt, 44 plat, dim atodiadau, ond cynhwysir Braslun Taith. (Mewn copïau eraill o’r argraffiad hwn yr edrychwyd arnynt dim ond viii + 379 tt sydd).

b) [? Argraffiad wedi’i ladrata, Dulyn?] A tour in Scotland, MDCCLXIX. By Thomas Pennant, Esq; (Dublin: argraffwyd dros A. Leathley, (no. 63) in Dame-Street, MDCCLXXV. [1775]. 2 gyf. Octafo. Ymddengys mai argraffiadau octafo rhad heb blatiau yw’r rhain. Teitl cyf. I (DRY.592, 388 tt) yw A Tour in Scotland MDCCLXIX, The Fourth Edition ac mae’n cynnwys VIII Atodiad; Braslun Taith 1769 yw’r olaf o’r rhain. Teitl cyf. II yw A Tour in Scotland, and Voyage to the Hebrides. MDCCLXXII, The Fourth Edition, Volume II. Rhan I taith 1772 (h.y. y Daith i Ynysoedd Heledd) yw hwn. Dim atodiadau, ond mae’n cynnwys Braslun Taith ar gyfer Rhan I taith 1772.

c) 2il argraffiad (Rhan I): A tour in Scotland, and voyage to the Hebrides; MDCCLXXII. Part I. (London: argraffwyd dros Benj. White, MDCCLXXVI. [1776].) Cwarto, vii + 439 tt, 44 plat, dim atodiadau ond mae’n cynnwys Braslun Taith ar gyfer taith 1772.

d) Argraffiad 1af (Rhan II): A tour in Scotland. MDCCLXXII. Part II. (London: argraffwyd ar gyfer Benj. White, 1776). Cwarto, iv + 482 tt, 47 platiau and 20 atodiad, yn cynnwys Braslun Taith. Dilynnir gan Additions to the Tour in Scotland 1769*, tt. 1–34 (sy’n cynnwys dwy blat o ‘Pictish Houses’), wedi’u rhifo’n barhaus gyda Additions to the Voyage to the Hebrides 1772, Two Omissions, to be referred to their proper place, sef ‘Tour 1769 Scarborough’ a ‘Voy. Hebrides. Bagpipes’. Y mae’r mynegai o blatiau ar gyfer A tour in Scotland. MDCCLXXII. Part II yn cyfeirio at 2 blat o ‘Pictish Houses’ yn yr ‘Additions’ ac at eu rhifau tudalen, sy’n awgrymu fod yr ‘Additions’ wedi cael eu hargraffu yr un pryd â deunydd clawr argraffiad 1776, a’i bod wedi bod yn fwriad o’r dechrau iddynt gael eu rhwymo gyda’r gyfrol hon.
*Sylwer fod y rhain yn wahanol i’r Additions to 1769 a ddisgrifir yn 1e. uchod.

e) A tour in Scotland, and voyage to the Hebrides; MDCCLXXII. 2 gyf. (London: argraffwyd dros Benj. White, MDCCXC. [1790]). Cwarto. (Argraffiad cyflawn cyntaf o daith 1772?) Y mae gan gyf. I vii + 440 tt, a 44 plat. Braslun Taith Pennant yw’r unig atodiad. Y mae gan gyf. II iv + 489 tt, a 45 plat, a 21 atodiad, yn cynnwys y Braslun Taith. Y mae’r rhain yr un rhai ag a welir yn argraffiad 1af (Rhan II) 1776, ond heb y 2 blat ychwanegol o ‘Pictish Houses’ sy’n ymddangos yn yr Additions to the Tour in Scotland, MDCCLXIX. Y mae’r atodiadau ychydig yn wahanol i argraffiad 1776 o Ran II Taith 1772.

Cyhoeddwyd argraffiad o Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides, 1772, yn seiliedig ar 2il argraffiad Benjamin White o Ran I (1776), a’r argraffiad 1af o Ran II, gyda rhagymadrodd gan Charles W. Withers, golygwyd gan Andrew Simmons (Edinburgh: Birlinn Ltd, 1998).

3] Tour in Wales

a) Argraffiad 1af: A tour in Wales. MDCCLXX. (London: argraffwyd gan Henry Hughes, MDCCLXXVIII [1778]). Cwarto, vii + 525 tt, 27 plat.
Sylwer: 1773 oedd gwir ddyddiad taith Pennant yng Nghymru (er ei bod hefyd yn cynnwys deunydd o nifer o deithiau a wnaeth o amgylch y wlad er ei blentyndod.). Cywirwyd MDCLXX (1770) i MDCLXXIII (1773) mewn inc ar nifer o gopïau, ond y mae’n parhau i ymddangos mewn print fel MDCCLXX mewn copïau eraill, megis copi Hunterian K.5.9. yn Glasgow a’r copi ar Eighteenth Century Collections Online.

b) Argraffiad 1af: A Journey to Snowdon (London: argraffwyd gan Henry Hughes, 1781), iii + 487 tt, + mynegai ac Ychwanegiadau a Chywiriadau i Gyf. I Tour in Wales, tudalennau wedi’u rhifo ar wahân.

Rhwymir yn aml gyda:

c) Argraffiad 1af: Continuation of the Journey (London: argraffwyd gan Henry Hughes, 1783)

d) A tour in Wales. MDCCLXXIII. (Dublin: argraffwyd dros Messrs. Sleater, Potts, Moncrieffe, Walker, Exshaw, Flin, Burnet, Jenkin, White a Beatty, MDCCLXXIX [1779].) 469 tt [Cyf. 1 yn unig. Golygiad wedi’i ladrata, y mae’n bur debyg].

e) 2il argraffiad: A tour in Wales. Cwarto, 2 gyf. (London: Argraffwyd dros Benjamin White, yn Horace’s Head yn Fleet Street, MDCCLXXXIV [1784]). Cyf. I, viii + 547 tt. 26 plat; Cyf. II, 551 tt, 26 plat, ac 17 atodiad. Cynhwysir y tair taith yn y ddwy gyfrol hyn, ac y mae’r ddwy’n cynnwys Ychwanegiadau a Chywiriadau, tudalennau wedi’u rhifo ar wahân.

f) Tours in Wales by Thomas Pennant Esq. Gyda nodiadau. 3 cyf. (London: Argraffwyd dros Wilkie a Robinson; J. Nunn; White a Cochrane; Longman, Hurst, Rees ac Orme; Vernor, Hood, a Sharpe; Cadell a Davies; J. Harding; J. Richardson; J. Booth; J. Mawman; a J. Johnson and Co., 1810). Octafo. David Pennant, mab yr awdur, piau’r nodiadau golygyddol. Cyf. I, 415 tt; Cyf. II, 415 tt; Cyf. III, 484 tt. Cynhwysir y darluniau gan Moses Griffiths.

g) Hynafiaethau Cymreig: teithiau yn Nghymru, sef cyfieithiad o’r “Tours in Wales” gan Thomas Pennant; at yr hyn yr ychwanegwyd cofrestr o bum’ llwyth breninol Cymru, a phymtheg llwyth Gwynedd, a’u disgynyddion, fel yr ymddangosasant yn “Pennant’s History of Whiteford and Holywell.” Ynghyda chyfieithiad o’r nodiadau a’r rhagymadrodd, yn yr argraffiad Seisoneg diweddaf gan John Rhys. Hefyd, nodiadau, hanes bywyd yr awdwr, a rhagarweiniad i hanes y llwythau gan W. Trevor Parkins (Caernarfon: H. Humphreys, 1883) 635 tt. Cyfieithiad Cymraeg o argraffiad 1810 (f, uchod) gan yr ysgolhaig Celtaidd John Rhŷs, gyda deunydd achyddol atodol wedi’i dynnu o gyfrol Pennant, History of the parishes of Whiteford, and Holywell (1796).

h) Copi goliwiedig o A Tour In Wales. Copi personol Pennant o Daith 1784, mewn 8 cyfrol, gyda llu o ddyfrlliwiau ymyl dalen gan Moses Griffith ac eraill. Cedwir yn LlGC a gellir ei gweld ar ffurf ddigidol yn: https://www.llgc.org.uk/collections/digital-gallery/pictures/journeytosnowdon/

Cyhoeddiadau diweddar: Cyhoeddwyd golygiad ffacsimili o A Tour in Wales, sy’n seiliedig ar olygiad 2 gyfrol Benjamin White’s yn 1784 (e, uchod), gan Bridge Books, gyda rhagymadrodd gan R. Paul Evans (Wrexham, 1991); y mae Gwasg Prifysgol Caergrawnt hefyd wedi ailargraffu’r gyfrol hon (Cambridge, 2014). Cyhoeddwyd cyfrol mewn golygiad cyfyngedig gan Wasg Gregynog (Newtown, 2006): Pennant and his Welsh Landscapes: Selected Readings from A Tour in Wales (1778–1784), golygwyd gyda rhagymadrodd gan Gwyn Walters, gyda thorluniau pren gan Rigby Graham.