“’Dydw i ddim yn meddwl cychwyn ar fy siwrnai tan ganol Mehefin, ar y cynharaf, ond rwy’n gobeithio cyrraedd Glasgow tua’r 1af o’r mis hwnnw. Oddi yno rwy’n bwriadu mynd ar daith fechan tua’r gogledd.”
Thomas Pennant at George Paton, Ionawr 1772
Un o brif dasgau prosiect y Teithwyr Chwilfrydig (Curious Travellers) fu cynhyrchu golygiadau sylweddol o ohebiaeth Thomas Pennant, gan ddatguddio’r straeon diddorol y tu cefn i’r gwaith o gynllunio, ysgrifennu a chyhoeddi ei Deithiau yn yr Alban a Chymru. Yn ogystal â dibynnu ar ei brofiadau ei hun fel teithiwr, defnyddiodd Pennant wybodaeth oddi wrth rwydwaith eang o gyfeillion, arbenigwyr ac o ffynonellau lleol er mwyn llunio ei deithiau; paratodd ei weithiau i’w cyhoeddi a diwygiodd ei gyhoeddiadau blaenorol drwy gasglu cronfeydd cyfoethog o ddeunydd testunol a gweledol. Fodd bynnag, gan fod gohebiaeth Pennant ar wasgar mewn amryfal archifdai a llyfrgelleodd, nid yw wedi bod yn bosibl, ar y cyfan, ei defnyddio i ddyfnhau’n gwybodaeth ynghylch sut y crëwyd ei deithiau – na’n hymwybyddiaeth o ddiwylliannau gwyddonol, hynafiaethol, celfyddydol a llenyddol y ddeunawfed ganrif, ychwaith.
Y mae Alex Deans a Ffion Mair Jones bellach wedi trawsgrifio, tagio a golygu dros 500 llythyr, y gellir eu gweld yma. Am gyflwyniad cyffredinol i ohebiaeth Pennant, gweler yma. Y mae’r gwaith hwn yn parhau, a byddwn yn ychwanegu clystyrau newydd o ohebieth yn y dyfodol. Rydym hefyd yn paratoi cronfa ddata lawn o holl ohebiaeth Pennant. Gweler isod am ddolenni i ohebiaeth Pennant sydd ar gael mewn ffynonellau eraill.
Yn sgil ein partneriaeth â’r prosiect Diwylliannau Gwybodaeth (Cultures of Knowledge) yn Rhydychen, y mae meta-ddata a gasglwyd o ohebiaeth Pennant hefyd ar gael drwy gronfa ddata Llythyrau Modern Cynnar Ar-lein (Early Modern Letters Online, EMLO). Gall defnyddwyr, felly, ddechrau archwilio’r rhwydwaith cymdeithasol eang yr ymelwodd Pennant arno fel awdur a chasglwr, a gosod ei waith o fewn cyd-destun ehangach diwylliant gohebol y ddeunawfed ganrif. Daw hyn yn bosibl drwy ddefnyddio catalog EMLO a’r offer dadansoddi sydd ynghlwm wrtho.
Y mae gohebiaeth Pennant yn adlewyrchu cwmpas ei deithiau, gan ddwyn ynghyd ohebwyr o fewn Ynysoedd Prydain a thu hwnt i drafod meysydd mor amrywiol â byd natur, y fasnach lyfrau, hynafiaetheg, diwylliant gweledol a thopograffeg.
Casgliadau eraill o Ohebiaeth Pennant ar-lein
Gan fod gweithgarwch a diddordebau Pennant fel teithiwr a naturiaethwr yn eang ac amrywiol, daw ei ohebiaeth yn aml i sylw ymchwilwyr sy’n gweithio ar ei gyfoeswyr a’i gysylltiadau. Drwy waith prosiectau fel hyn, y mae peth o ohebiaeth Pennant eisoes ar gael ar-lein, a gellir cael mynediad i’r deunydd hwn drwy’r dolenni isod.
Y mae Cymdeithas Linneaidd Llundain wedi darparu ffacsimilïau digidol o ansawdd uchel o ohebiaeth rhwng Pennant a Carl Linnaeus. Gellir gweld y rhain drwy chwilio am enw Pennant neu bori drwy feysydd yr anfonwyr a’r derbynwyr. Dolen.
Y mae’r Gymdeithas Linneaidd hefyd wedi digido llythyrau rhwng Pennant a Llywydd y Gymdeithas Linneaidd, y naturiaethwr Syr James Edward Smith. Dolen.
Y mae gan gatalog Llythyrau Modern Cynnar Ar-lein (Early Modern Letters Online, EMLO) gofnodion ar gyfer oddeutu 180 o lythyrau at ac oddi wrth Pennant. Gellir eu harchwilio drwy ei broffil. Dolen.
Cynhwysir nifer o lythyrau at Pennant yng Ngolygiad Yale o Ohebiaeth Horace Walpole. Dolen.
Bydd y dolenni hyn yn cael eu diweddaru wrth i ragor o ohebiaeth ddod i’r amlwg. Croeso i chi gysylltu â ni, felly, os gwyddoch am unrhyw adnoddau y dylid eu hychwanegu at y rhestr.