Ym mis Mehefin 2022, dyfarnwyd grant bach i Dr Ffion Mair Jones o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (Y Ganolfan Geltaidd) gan Rwydwaith Arloesi Cymru (WIN), i archwilio adroddiad ynghylch Gorllewin Affrica, a grëwyd gan Thomas Pennant fel rhan o’i ‘magnum opus’, ‘Outlines of the Globe’. Yn rhan o gasgliadau’r Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, mae cyfrol 11 o’r ‘Outlines’ gyda’r is-deitl ‘Nigritia’ (neu, mewn man arall, ‘Nigritian Africa’), yn un o dair cyfrol sy’n ymwneud ag Affrica, lle mae Pennant yn dilyn llwybr arfordirol yn groes i’r cloc o amgylch y cyfandir. Mae cyfrol 10 yn cychwyn y daith yng Ngogledd Affrica, gan ddilyn arfordir Môr y Canoldir o Alexandria yn yr Aifft, trwy ganol ynysoedd Madeira, Yr Ynysoedd Dedwydd, ac ynysoedd Penrhyn Verde i St Louis, Senegal. Yng nghyfrol 11, mae Pennant yn parhau â’r daith ‘o afon Senegal i Benrhyn Negro; … Ynys y Tywysog, Ynys Sant Tomos, Ynys y Dyrchafael, ac Ynys y Santes Helena’. Mae ei drydedd gyfrol Affricanaidd, ‘Ethiopian Africa’, yn olrhain taith o ‘Benrhyn Negro i Benrhyn Gobaith Da, … genau’r Môr Coch … cyn belled â Chuldir Suez’, a cheir yma hefyd ymweliadau ag ynysoedd nodedig, gan gynnwys Madagasgar ac ynysyoedd y Seychelles.
Copïwyd y tri adroddiad yn llaw amanuensis Pennant (llaw wahanol i’r cynharaf, cyfrol 10) mewn llawysgrifau ffolio mawr a’u haddurno â detholiad cyfoethog o brintiau wedi’u hysgythru, darluniau, mapiau, siartiau morwrol, a dyfrlliwiau gwreiddiol. Mae cyfrol 11, canolbwynt y prosiect hwn, yn ymwneud yn benodol â materion ynghlwm wrth y ddadl danbaid ym Mhrydain a gwledydd Ewropeaidd eraill tua diwedd y 1780au ynghylch diddymu’r fasnach drawsiwerydd mewn caethweision. Adlewyrchir y drafodaeth yn nhestun Pennant ac yn ei ddewis o ddelweddau. O’i ystyried ochr yn ochr â thrafodaethau cyfredol ynghylch cydraddoldeb a chynhwysiant o fewn cymunedau yng Nghymru ac yn ehangach, mae hwn wedi bod yn bwynt trafod pwysig i’r grŵp o academyddion a churaduron a gyfarfu ar-lein yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf 2021 i ddechrau proses o ystyried cyd-destun hanesyddol y llawysgrif a’i goblygiadau yn ein cyfnod ni. Roedd y grŵp yn cynnwys Dr Aaron Jaffer, Yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol (NMM); yr Athro Olivette Otele, Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd, Prifysgol Llundain; yr Athro Andrew Prescott, Prifysgol Glasgow; a’r Athro Bettina Schmidt, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ymunodd yr Athro Chris Evans, Prifysgol De Cymru â ni ar un achlysur; a chafwyd trafodaeth un-i-un â Dr Alexander Scott, o’r Amgueddfa Caethwasiaeth Ryngwladol (International Slavery Muesum; ISM).
Yn dilyn ystyriaeth o’r cwestiynau anodd sy’n codi o hanes caethiwed, sefydlwyd cysylltiad ag artist o dras Affricanaidd, Mfikela Jean Samuel. Wedi’i eni yn Camerŵn, mae Mfikela bellach yn byw ac yn gweithio ym Mangor, Gwynedd. Yno, mae’n hyrwyddo pobl ifanc o dras Affricanaidd, gan eu cefnogi ar eu teithiau creadigol fel artistiaid â gweledigaeth gadarnhaol a brwd dros eu treftadaeth Affricanaidd.
Gweithdy ‘Caethwasiaeth, Diddymiaeth, a thu hwnt: Adroddiad Thomas Pennant ar Orllewin Affrica’
Daethpwyd â llinynnau academaidd a churadurol a chreadigol y prosiect ynghyd mewn gweithdy ar-lein a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022 gyda chynulleidfa wadd oedd yn cynnwys Dr Azim Ahmed, Prifysgol Caerdydd; Manon Humphreys, Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Dr Aaron Jaffer, NMM; Yr Athro Aled Gruffydd Jones; a’r Athro Bettina Schmidt, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Siaradwyr o’r byd academaidd fu’n annerch yn sesiwn y bore, sesiwn a rannwyd yn ddwy adran, dan gadeiryddiaeth yr Athro Mary-Ann Constantine, Y Ganolfan Geltaidd.
Thomas Pennant, ‘Outlines of the Globe’
Yn gyntaf, siaradodd Dr Rhys Kaminski-Jones a Dr Ffion Mair Jones o’r Ganolfan Geltaidd am ‘Outlines of the Globe’ gan Pennant. Mae Dr Rhys Kaminski-Jones ar hyn o bryd yn archwilio ‘Outlines’ Pennant fel Cymrawd Caird yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol. Dangosodd ei anerchiad ef sut y cyflwynodd Pennant ei olwg ‘ddychmygol’ ar y byd trwy lygaid asiantau imperialaidd; sut, yn hynod ddiddorol, yr amrywiai ei safbwyntiau yn ôl y rhanbarth a ddisgrifiai, gan adlewyrchu rhagfarnau ei ffynonellau (er enghraifft, daw ‘hil’ i’r amlwg yn gliriach yn ei adroddiad ynghylch Gorllewin Affrica nag mewn unrhyw un arall); a sut yr uniaethodd Pennant, fel Cymro, â’r prosiect i wladychu India, gan osod ‘haenen o Gymreictod’ dros y gwladychiad. Gan ddisgrifio’r ‘Outlines’ fel testun problematig a chythryblus, tynnodd Dr Kaminski-Jones sylw at lais awdurdodol amhersonol Pennant, a’r modd y’i defnyddiodd i liniaru cefndir imperialaidd ei hysbyswyr a’r busnes brwnt y buont yn ymwneud ag ef gyda llewyrch deallusoldeb yr Ymoleuedigaeth.
Cyflwyniad i gyfrol 11 o’r ‘Outlines’ a gafwyd gan Dr Ffion Mair Jones. Trafododd berthynas y gwaith â lleisiau diddymwyr a oedd yn gyffredin ym Mhrydain o tua 1788 ymlaen; sut yr oedd yn condemnio hanes Prydain o ymwneud â chaethiwo pobl Affrica; ond hefyd sut yr arddangosai gariad Pennant at ddarganfod byd natur, rhywbeth nad oedd ond yn bosibl drwy waith naturiaethwyr a gyflogid drwy’r fasnach mewn Affricaniaid wedi’u caethiwo.
Diddymu a’r fasnach drawsiwerydd
Wedi hyn, symudodd y drafodaeth at safbwyntiau hanesyddol yn fwy eang. Trafodwyd gwleidyddiaeth diddymu’r 1780au a’r 1790au gan yr Athro John Oldfield, mewn papur a ddangosai sensitifrwydd i le Pennant yng nghyd-destun agenda diwygio’r degawdau hyn. Soniodd yr Athro Oldfield am sefydlu’r ‘Gymdeithas er Diddymu’r Fasnach mewn Caethweision’, y gymdeithas wrth-gaethwasiaeth gyntaf, ym mis Mai 1787. Er mor anodd oedd gwrthwynebu caethwasiaeth a’r fasnach mewn rhai wedi’u caethiwo, a ystyrid yn elfennau anhepgorol mewn ymerodraeth (teimlad a fynegir hefyd yn adroddiad Pennant ynghylch Gorllewin Affrica), creodd y gymdeithas hon lwyfan ar gyfer gwrth-gaethwasiaeth. Roedd eu haelodau, llawer yn Grynwyr ac/neu yn ddynion busnes, yn cynnwys Granville Sharp, Thomas Clarkson, a’r llyfrwerthwr James Phillips, a chyflwynodd yr Athro Oldfield ddarlun o’r technegau a roddwyd ar waith ganddynt wrth ddatblygu eu hagenda ar gyfer diddymu: eu defnydd o lenyddiaeth a phrintiau; a’u hymdrechion i greu rhwydwaith ar gyfer yr achos drwy farchogaeth ar hyd a lled gwlad i siarad â grwpiau o gefnogwyr a sicrhau bod cydlynu rhwng pwyllgorau lleol a’r gymdeithas yn Llundain. Roedd y defnydd o ddeisebu fel arf gwleidyddol yn ganolog i ymgyrchoedd yn 1788 ac 1792: deiseb 1792, gyda 519 o lofnodwyr, oedd y fwyaf erioed i gael ei hanfon i Dŷ’r Cyffredin. Yng Nghymru, anfonwyd deisebau o Gaerdydd, Abertawe, Penfro, a Hwlffordd, ynghyd â Wrecsam yn y gogledd-ddwyrain. Ar ororau Cymru, anfonodd Amwythig a Bridgenorth ddeisebau; ni fu deiseb o Gaer, ond roedd esgobaeth y ddinas honno eisoes wedi deisebu’r senedd yn erbyn y fasnach mewn caethweision yn 1788. Byddai Pennant wedi bod yn ymwybodol iawn o’r tŵf hwn mewn gweithredu.

Pau cyhoeddus, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=3776486
Siaradodd yr Athro Chris Evans am le Cymru o fewn caethwasiaeth ehangach yr Iwerydd. Dechreuodd drwy ddyfynnu tystiolaeth ar gyfer y raddfa enfawr a’r rhychwant gronolegol sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth rhwng Affrica a’r Byd Newydd: llwythwyd rhwng 12.5 miliwn o Affricanwyr ar longau a glaniodd 10.7 miliwn yn y Byd Newydd rhwng 1520 a 1866. Roedd y fasnach yn arbennig o amlwg yn y Caribî a Brasil (45% o’r cyfanswm) a’r cyfraddau’n is ar gyfer Gogledd America (4 i 5%). Daeth Prydain yn chwaraewr amlwg yn y ddeunawfed ganrif, a bu’n flaenllaw hyd at ddileu caethwasiaeth yn 1807. Cyfeiriwyd at gronfeydd data arwyddocaol a oedd yn galluogi ymchwilio i dystiolaeth ynghylch caethwasiaeth drawsiwerydd: Slave Voyages a Legacies of British Slavery. Ni chychwynnodd unrhyw fordaith drawsiwerydd o borthladd yng Nghymru; rhwystrwyd hyn gan ddiffyg cyfoeth yn y wlad o amgylch y porthladdoedd i ddarparu’r cyfalaf sylweddol oedd yn angenrheidiol ar gyfer mentrau o’r fath. Fodd bynnag, roedd ‘pethau’ Cymreig ynghlwm wrth y fasnach: o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, tecstilau gwlân yn tarddu o dde Meirionnydd a gorllewin sir Drefaldwyn (fel y nododd Pennant yn ei Deithiau), a chopr a gynhyrchwyd gan weithfeydd diwydiannol Cymreig o ddechrau’r ddeunawfed ganrif. Roedd Cymru, fel mannau eraill ar gyrion byd yr Iwerydd, yn rhan o gefnwlad helaeth a oedd yn ymwneud â chaethwasiaeth ac, yn hynny o beth, roedd yn ‘dorcalonnus o normal’.

Cynrychioli caethwasiaeth: Golwg guradurol
Yn sesiwn y prynhawn, dan gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Prescott, materion curadurol oedd canolbwynt y cyflwyniadau a’r trafodaethau wrth i’r gweithdy fynd ati i archwilio sut y cynrychiolir caethwasiaeth yng Ngorllewin Affrica a byd yr Iwerydd. Amlinellodd Dr Alexander Scott, curadur yn yr Amgueddfa Caethwasiaeth Ryngwladol (ISM), Lerpwl, hanes ac esblygiad yr amgueddfa. Trafododd sut y cychwynnodd yr amgueddfa yn 1994 fel oriel Caethwasiaeth Trawsiwerydd o fewn Amgueddfa Forwrol Glannau Merswy, cyn agor o dan ei henw presennol yn 2007. Edrychodd ymhellach ar brosiect trawsffurfiol yr amgueddfa, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac sydd i’w gwblhau erbyn 2026 (https://www.heritagefund.org.uk/projects/hha2019-international-slavery-museum-igniting-ideas-and-action). Bydd y prosiect trawsffurfiol yn seiliedig ar fodel lle mae’r gymuned yn arwain, ac yn cefnogi pobl a sefydliadau i fod yn weithredol wrth sicrhau newidiadau. Mae hefyd yn mynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol, lle mae cymunedau Du Lerpwl, ddeng mlynedd ar hugain wedi sefydlu ISM, yn dal i deimlo nad oes cysylltiad rhyngddynt a’r amgueddfa. Eglurodd Dr Scott y cysyniad o ‘gydgynhyrchu’, gan ddangos sut mae’n mynd i’r afael ag anghyfartaleddau drwy sicrhau bod y cyhoedd yn chwarae rhan amlycach wrth gynllunio arddangosfeydd. Fel enghraifft o hyn, soniodd am brosiect i ymchwilio i gysylltiadau rhwng casgliadau amgueddfeydd Lerpwl a’r teulu Sandbach, teulu y deilliai eu cyfoeth o blanhigfeydd lle’r arferid caethwasiaeth (https://www.liverpoolmuseums.org.uk/Sandbach-Research-Project). O ganlyniad i’r prosiect hwn, gosodwyd pâr o hualau ffêr a gynlluniwyd ar gyfer caethiwo pobl wrth eu trawsgludo fel eitem barhaol o fewn oriel gerflunwaith Oriel Gelf Walker. Daeth cyflwyniad Dr Scott i ben drwy grybwyll y defnydd o gelf gyfoes fel y’i harchwiliwyd yn rhaglen Casglu Diwylliannau Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2014, y prosiect Herio Hanes: Casglu gweithiau celf newydd.
Ymgeisydd doethurol yn Sefydliad Wilberforce ar gyfer Astudio Caethwasiaeth a Rhyddfreinio (Wilberforce Institute for the Study of Slavery and Emancipation), Prifysgol Hull, oedd ein siaradwr nesaf. Mae Adiva Lawrence bellach yn cydweithio ag Alexander Scott yn ISM, ac fe siaradodd am ei hymchwil ynghylch rhan celf gyfoes mewn archwilio caethwasiaeth drawsiwerydd, gan gynnig sylwadau ar sut y gellid defnyddio ei darganfyddiadau yn ei swydd yn yr amgueddfa. Gan ganolbwyntio ar diriogaeth dramor Ffrengig Guadeloupe, rhoddodd ddarlleniad o Minia Biabiany, ‘Qui vivra verra, qui mourra saura’ (2019), a gyflwynwyd yn CRAC Alsace. Yma, trafododd y prosesau a ddefnyddiwyd i ddileu hanes ar yr ynysoedd hyn, lle nas trosglwyddwyd agweddau ar wybodaeth ymhlith poblogaeth o dreftadaeth Affricanaidd o genhedlaeth i genhedlaeth. Wrth siarad am y diffyg cydbwysedd rhwng dogfennau hanesyddol a darnau celf sy’n cael eu harddangos yn Mémorial ACTe: Centre Caribéen d’Expressions et de Mémoire de la traite et de l’esclavage, in Guadeloupe, canolfan wedi’i lleoli yn Guadeloupe, tynnodd sylw at yr anawsterau sy’n codi o wrthbwyso naratif hanesyddol sych â gwaith celf gyfoes sydd wedi’i gynllunio i sbarduno ymateb emosiynol. Mae ei hymchwil yn berthnasol i’w gwaith yn ISM, lle mae’n chwilio am fethodolegau ar gyfer gwneud gwaith artistiaid yn ddealladwy i’r cyhoedd heb i gwestiynau fynd ar goll o dan argraff o gymhlethdod; ac yn cwestiynu lefel yr arweiniad a ddarperir gan yr amgueddfa ynghylch pynciau llosg sy’n cael eu cyflwyno mewn gweithiau celf yno (e.e. masnachu mewn pobl).
Y siaradwr olaf oedd yr artist Mfikela Jean Samuel. Roedd ei weledigaeth o hanes Gorllewin Affrica Pennant yn wahanol o ran ei ffocws ac yn berthnasol i deitl y gweithdy: ‘Caethwasiaeth, Diddymu, a thu hwnt’. Cwestiynodd Mfikela y farn gyffredinol am Affrica y mae’n dod ar ei thraws yn ei gartref newydd yng Nghymru, lle mae’r meddwl yn mynd yn syth at y cysylltiad annatod â hanes caethwasiaeth. Mae Affrica yn gymaint mwy, a dim ond un rhan fach o’i stori yw caethwasiaeth, meddai. Eglurodd mai dyna oedd yn ei feddwl wrth iddo archwilio dros 130 o ddelweddau o adroddiad llawysgrif Thomas Pennant ar Orllewin Affrica a gwneud detholiad ohonynt i seilio’i waith fel artist creadigol arnynt ar gyfer y prosiect hwn. Gan rannu gwaith oedd ar y gweill ganddo, dangosodd luniadau yn ymateb i bwnc caethiwo ond soniodd hefyd am gynlluniau ar gyfer golwg fwy cadarnhaol ar Affrica mewn darluniau pellach. I ddarllen mwy am yr arddangosfa sy’n cynnwys gwaith Mfikela Jean Samuel ar gyfrif llawysgrif Gorllewin Affrica Pennant, gweler <HERE: Link to material in Word document: Gwefan WIN CT 2, Golwg ar Orllewin Affrica o Gymru>