Cefnogaeth i ddau brosiect cychwynnol ar ‘Outlines of the Globe’ gan Thomas Pennant

Map o'r Congo ac Angola o Thomas Pennant, ‘Outlines of the Globe’

Map o’r Congo ac Angola o Thomas Pennant, ‘Outlines of the Globe’. ©National Maritime Museum, Greenwich, London.

Derbyniodd dau ymchwilydd o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd arian ar gyfer prosiectau fydd yn hybu mynediad at rai o drysorau’r Amgueddfa Forol Genedlaethol, Greenwich, Llundain. Cyfres o lawysgrifau wedi eu haddurno yw’r Outlines of the Globe, a gyfansoddwyd gan Thomas Pennant (1726-1798), naturiaethwr o sir y Fflint. ‘Taith ddychmygol’ yw hon, sy’n trafod ardaloedd Gorllewin Affrica a Gogledd Ewrop yn ogystal ag India, Siapan, ac Indonesia.  Y mae’n arolwg o’r byd fel y gwelid ef o Brydain yn y ddeunawfed ganrif, yn seiliedig ar brofiad Pennant fel teithiwr, naturiaethwr a hynafiaethydd, ac yn cynnwys gwybodaeth o’r lleoliadau eu hunain oddi wrth rwydwaith eang o ohebwyr rhyngwladol.  Bydd y ddau brosiect newydd yn hybu ein dealltwriaeth o sut y dychmygai Prydeinwyr y byd yng nghyd-destun yr ymerodraeth estynedig.

Derbyniodd Dr Rhys Kaminski-Jones (ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Ganolfan) Gymrodoriaeth Caird gan yr Amgueddfa Forol i astudio’r llawysgrifau am dri mis. Bydd yn ychwanegu at y catalogau arlein ar gyfer dwy gyfrol ar hugain yr Outlines, gan hyrwyddo’r broses o archwilio’r deunydd diddorol hwn ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol. Yn ogystal, bydd yn ysgrifennu blogiau ar gyfer gwefan Royal Museums Greenwich, ac yn astudio’r llawysgrifau, gan ffocysu ar fethodoleg arloesol Pennant a’i agwedd at genre ysgrifennu taith, ac yn asesu lle’r corpws o fewn rhwydweithiau ymerodrol – yn enwedig y ffordd y mae’n delweddu’r berthynas rhwng Cymru ac India.

Derbyniodd Dr Ffion Mair Jones (Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan) arian gan Rwydwaith Arloesi Cymru (Wales Innovation Network: WIN) i ddatblygu prosiect sydd yn canolbwyntio ar un gyfrol o’r Outlines, ‘Gorllewin Affrica’. Mae tystiolaeth fewnol yn awgrymu’n gryf i hon gael ei llunio tua 1788, ar foment allweddol ym Mhrydain yn natblygiad y symudiad dros ddiddymu caethwasiaeth. Er ei bod yn dangos cydymdeimlad â diddymiaeth, y mae hefyd yn arddangos nodweddion trefedigaethol, o ran y testun a’r delweddau niferus a gynhwysir. Mewn cydweithrediad â’r Amgueddfa Forol, Cyngor Hil Cymru a phartneriaid o Brifysgolion Bryste, Glasgow a Chaerdydd, bydd proseict Dr Jones yn astudio’r testun a’r delweddau o safbwynt dadgoloneiddio, gan gwestiynu natur delweddu diwylliant a phobl Affrica ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Mae’r ddau brosiect yn adeiladau ar waith a gyflwynwyd gan brosiect Teithwyr Chwilfrydig, ac yn dangos arwyddocâd gwaith Thomas Pennant i rai o gwestiynau allweddol ein cyfnod ni.