Archifau Categori: Newyddion

Teithwyr Chwilfrydig 2: Prosiect Newydd

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod prosiect newydd ‘Teithwyr Chwilfrydig’ yn cychwyn dan nawdd yr AHRC!

Bydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Glasgow a’r Natural History Museum, Llundain, yn cydweithio i greu’r golygiadau academaidd cyntaf o Deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban.

‘Barmouth’ gan Moses Griffith (ca 1778) Llyfrgell Gendedlaethol Cymru

Prosiect yn torri tir newydd fydd ‘Teithwyr Chwilfrydig 2: Golygiadau Digidol o Deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban’. Gan gyfuno golygu testunol traddodiadol â thechnegau newydd o’r dyniaethau digidol, dyma fydd y golygiadau ysgolheigaidd cyntaf o deithiau Thomas Pennant (1726–98), naturiaethwr a hynafiaethydd o Downing, sir y Fflint. Byddant ar gael ar lein i ddefnyddwyr o bob math.

Bydd cydweithrediad ag ystod eang o bartneriaid yn caniatáu inni gysylltu’r testunau hanesyddol â delweddau a gwybodaeth o lyfrgelloedd cenedlaethol Cymru a’r Alban, National Maritime Museum, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Historic Environment Scotland.

Cafodd Teithiau Pennant ddylanwad mawr ar ddelweddu Cymru a’r Alban – dylanwad sy’n parhau hyd heddiw. Braint yw gweithio gyda’r Natural History Museum i archwilio sut roedd diddordebau Pennant fel naturiaethwr wedi gyrru ei deithiau. Mae’n gyfle gwych i roi bywyd newydd i’r testunau cyfoethog ac amlhaenog hyn.
Bydd tîm y Teithwyr Chwilfrydig hefyd yn cydweithio gydag ysgolion a chymunedau yn sir y Fflint ac Ynys Skye, ac yn cyd-drefnu arddangosfeydd â Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, a’r Gilbert White House yn Selbourne.

Rhagor o newyddion yn dilyn!

Cefnogaeth i ddau brosiect cychwynnol ar ‘Outlines of the Globe’ gan Thomas Pennant

Map o'r Congo ac Angola o Thomas Pennant, ‘Outlines of the Globe’

Map o’r Congo ac Angola o Thomas Pennant, ‘Outlines of the Globe’. ©National Maritime Museum, Greenwich, London.

Derbyniodd dau ymchwilydd o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd arian ar gyfer prosiectau fydd yn hybu mynediad at rai o drysorau’r Amgueddfa Forol Genedlaethol, Greenwich, Llundain. Cyfres o lawysgrifau wedi eu haddurno yw’r Outlines of the Globe, a gyfansoddwyd gan Thomas Pennant (1726-1798), naturiaethwr o sir y Fflint. ‘Taith ddychmygol’ yw hon, sy’n trafod ardaloedd Gorllewin Affrica a Gogledd Ewrop yn ogystal ag India, Siapan, ac Indonesia.  Y mae’n arolwg o’r byd fel y gwelid ef o Brydain yn y ddeunawfed ganrif, yn seiliedig ar brofiad Pennant fel teithiwr, naturiaethwr a hynafiaethydd, ac yn cynnwys gwybodaeth o’r lleoliadau eu hunain oddi wrth rwydwaith eang o ohebwyr rhyngwladol.  Bydd y ddau brosiect newydd yn hybu ein dealltwriaeth o sut y dychmygai Prydeinwyr y byd yng nghyd-destun yr ymerodraeth estynedig.

Derbyniodd Dr Rhys Kaminski-Jones (ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Ganolfan) Gymrodoriaeth Caird gan yr Amgueddfa Forol i astudio’r llawysgrifau am dri mis. Bydd yn ychwanegu at y catalogau arlein ar gyfer dwy gyfrol ar hugain yr Outlines, gan hyrwyddo’r broses o archwilio’r deunydd diddorol hwn ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol. Yn ogystal, bydd yn ysgrifennu blogiau ar gyfer gwefan Royal Museums Greenwich, ac yn astudio’r llawysgrifau, gan ffocysu ar fethodoleg arloesol Pennant a’i agwedd at genre ysgrifennu taith, ac yn asesu lle’r corpws o fewn rhwydweithiau ymerodrol – yn enwedig y ffordd y mae’n delweddu’r berthynas rhwng Cymru ac India.

Derbyniodd Dr Ffion Mair Jones (Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan) arian gan Rwydwaith Arloesi Cymru (Wales Innovation Network: WIN) i ddatblygu prosiect sydd yn canolbwyntio ar un gyfrol o’r Outlines, ‘Gorllewin Affrica’. Mae tystiolaeth fewnol yn awgrymu’n gryf i hon gael ei llunio tua 1788, ar foment allweddol ym Mhrydain yn natblygiad y symudiad dros ddiddymu caethwasiaeth. Er ei bod yn dangos cydymdeimlad â diddymiaeth, y mae hefyd yn arddangos nodweddion trefedigaethol, o ran y testun a’r delweddau niferus a gynhwysir. Mewn cydweithrediad â’r Amgueddfa Forol, Cyngor Hil Cymru a phartneriaid o Brifysgolion Bryste, Glasgow a Chaerdydd, bydd proseict Dr Jones yn astudio’r testun a’r delweddau o safbwynt dadgoloneiddio, gan gwestiynu natur delweddu diwylliant a phobl Affrica ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Mae’r ddau brosiect yn adeiladau ar waith a gyflwynwyd gan brosiect Teithwyr Chwilfrydig, ac yn dangos arwyddocâd gwaith Thomas Pennant i rai o gwestiynau allweddol ein cyfnod ni.

14 Mehefin 1726, Penblwydd Thomas Pennant

(Downing Hall gan Moses Griffith, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Wikimedia Commons)

“To prevent all disputes about the place and time of my birth, be it known that I was born on June 14th, 1726, old style, in the room now called the Yellow Room; that the celebrated Mrs Clayton, of Shrewsbury, ushered me into the world, and delivered me to Miss Jenny Parry, of Merton, in the parish; who to her dying day never failed telling me. ‘Ah, you rogue! I remember you when you had not a shirt to your back’”.

Pennant, The History of the Parishes of Whiteford and Holywell (1796)

I weld ble treulioddPennant ei benblwydd ym 1772 gwelwch:

http://curioustravellers.ac.uk/map/#zoom=10&lat=55.8947&lon=-4.0344&point=55.86424,-4.25181

Teithwyr Chwilfrydig: Newyddion a Digwyddiadau 2018

Moses Griffith, Penmaen Bach from Penmaen Mawr Road: o’r ‘Tours in Wales’ addurnedig (LLGC)
[https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Penmaenbach_from_Penmaen_Mawr_road.jpg]

Paratoi Testunau

Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r tîm ymchwil wedi bod yn canolbwyntio ar baratoi detholiad o lythyrau ac ysgrifau teithio ar gyfer cyhoeddiad ar-lein. Rydym yn bwriadu lansio’r set cyntaf o destunau ym mis Tachwedd, yn Llundain, mewn cynhadledd yn y Linnean Society (gw. isod). Mae’r broses o baratoi testunau ar gyfer cyhoeddiad digidol wedi bod yn eithaf heriol, gan gynnwys agweddau technegol (megis tagio enwau) sy’n mynd tu hwnt i dasgau golygyddol arferol. Ond bydd hyn yn gadael i ddarllenwyr archwilio’r deunydd mewn gwahanol ffyrdd, gan arwain at ddarganfyddiadau newydd yng nghohebiaeth Pennant. Bydd yn haws deall hefyd sut defnyddiwyd ei waith gan awduron a theithwyr diweddarach.  Fel erioed, mawr yw’n diolch i’n tîm technegol, sef Luca Guariento and Vivien Williams, am hwyluso’r broses gymhleth hon inni cymaint â phosib.

Arddangosfa a Digwyddiadau Hydref-Rhagfyr 2018 

Mae arian y prosiect yn dod i ben eleni, ac rydym am ddathlu pedair blynedd brysur iawn gyda chyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd ag arddangosfa yn Nhŷ Dr Johnson yn Llundain.  Mewn cydweithrediad â’r Curadur, Celine Luppo McDaid, bwriedir archwilio taith enwog Johnson & Boswell i Ucheldiroedd yr Alban yn 1773 mewn goleuni taith Thomas Pennant (blwyddyn yn gynharach!). Ceir hefyd detholiadau o lythyrau a theithiau Hester Piozzi – cyfaill agos i Johnson a pherthynas i Pennant. Cynhelir gwahanol ddigwyddiadau yn ystod tri mis yr arddangosfa:

4 Hydref: Agoriad yr arddangosfa, Curious Travellers: Dr Johnson and Thomas Pennant on Tour

30 Hydref: Darlith gan Dr Mary-Ann Constantine i Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain

15 Tachwedd (Tŷ Dr Johnson): Dwy ddarlith gan Yr Athro Murray Pittock a’r Athro Nigel Leask ar Dr Johnson a Thomas Pennant.

16 Tachwedd: Cynhadledd undydd & lansiad y testunau digidol (Linnean Society, Burlington House, Llundain)

14 Rhagfyr (Tŷ Dr Johnson): Noswaith o farddoniaeth a cherddoriaeth yng nghmwni beirdd o’r Alban ac o Gymru, Alec Finlay ac Ifor ap Glyn.

[https://en.wikipedia.org/wiki/Samuel_Johnson#/media/File:Samuel_Johnson_by_Joshua_Reynolds.jpg]

Curious Travellers: Thomas Pennant and the Welsh and Scottish Tour 1760-1820

Mewn cydweithrediad â
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Arddangosfa:  5-9 Chwefror 2018, Ystafell Summers

Sgwrs amser cinio: 1pm, 7 Chwefror 2018, y Drwm.

Bydd Mary-Ann Constantine yn cyflwyno uchafbwyntiau prosiect pedair blynedd ar Deithiau Thomas Pennant (1726–1798) a’r rheiny a’i dilynodd.  Dangosir detholiad o’i lyfrau a’i lawysgrifau trwy gydol yr wythnos yn Ystafell Summers y Llyfrgell.

Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg

Mynediad am ddim trwy docyn

Teithwyr Chwilfrydig, 2017

Dyma ni hanner ffordd trwy’r prosiect yn barod; tu ôl i’r llenni mae gwaith yn mynd yn ei flaen i drawsysgrifio, golygu a ‘thagio’’r Llythyrau a’r Teithiau, gyda chymorth ein datblygwr systemau Luca Guariento, a’n cynorthwyydd newydd Vivien Williams. Rydyn ni wedi ychwanegu Blog Ymchwil i’r wefan; fel Blog y Cerddwyr mae hwn yn agored i unrhyw un sydd eisiau cyfrannu. Mae sawl digwyddiad y dod lan yn ystod y misoedd nesaf lle bydd aelodau o’r tîm yn sôn am eu gwaith. Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi’r newyddion bod yr arddangosfa o waith celf a gynhaliwyd yn Oriel Sycharth llynedd yn symud i Oriel Brondanw, Llanfrothen, yng nghanol mis Mai, ac ymlaen wedyn i Aberystywth. Disgwylir cyfrol o ysgrifau ar wahanol agweddau o Deithiau Thomas Pennant, (gol. Mary-Ann Constantine & Nigel Leask), gan Anthem Press yn y gwanwyn.

Sgyrsiau diweddar

Ionawr 26-27, Llundain: rhoddodd Alex Deans bapur ar Pennant & Banks: ‘With a facility of communication’: Pennant, Banks and collaborative knowledge-making’, National Portrait Gallery Workshop: ‘Science, Self-fashioning and Representation in Joseph Banks’s Circles’. [crynodeb]

Chwefror 17, Caeredin: soniodd Nigel Leask ac Alex Deans am fapio Teithiau Pennant yn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.

Digwyddiadau eleni

Mawrth 8, Glasgow: bydd Nigel Leask yn traddodi darlith ar Thomas Pennant i’r Royal Philosophical Society, Glasgow.

Ebrill 29 (Prifysgol Edge Hill): bydd Kirsty McHugh yn trafod ‘Leeds, Loch Lomond & the Lakes: the Marshalls, the Wordsworths and home tourism’ mewn cynhadledd, Romanticism takes to the hills.

Ebrill 29, Oriel Môn, Llangefni, Anglesey: diwrnod undydd (trwy gyfrwng y Gymraeg) ar Morrisiaid Môn. Bydd Ffion Jones yn sôn am gysylltiadau cyffredin William Morris a Thomas Pennant. [Rhaglen]

Mai 6, Penpont, Aberhonddu (cynhadledd undydd, croeso i bawb!): Ffenestri ar y Byd : Teithwyr i sir Frycheiniog yn y G18fed a’r G19eg. [Rhaglen]

Canol Mai – diwedd Mehefin: Arddangosfa: Tirwedd, Symud, Celf, Oriel Brondanw, Llanfrothen. Gwyliwch am ddigwyddiadau a sgyrsiau cysylltiedig. Mae’n debyg y bydd yr arddangosfa yn symud i’r Hen Goleg, Aberystwyth, yn ystod mis Gorffennaf – manylion i ddilyn.

Mai 12, Rhydychen (darlith gyhoeddus): bydd Mary-Ann Constantine yn rhoi’r ddarlith O’ Donnell 2017 ar: ‘Curious Traveller: Britons, Britain and Britishness in Thomas Pennant’s Tours’.

Mehefin 7-9, Dulyn: bydd Mary-Ann Constantine yn rhoi prif ddarlith mewn cynhadledd flynyddol Eighteenth Century Ireland Society, ar deithwyr o Gymru i Iwerddon yn ystod y G18fed (gan gynnwys Thomas Pennant, a ymwelodd yn ddyn ifanc ym 1754).

Gorffennaf 10-12, Aberystwyth. Borders and Crossings International Conference. Bydd Mary-Ann Constantine yn rhoi prif ddarlith ar ysgrifau teithio am yr Arfordir yn y cyfnod Rhamantaidd; bydd Liz Edwards yn trafod teithiau Prydeinig Hester Piozzi.

Gorffennaf 29-31, Efrog. British Association for Romantic Studies. Bydd Teithwyr Chwilfrydig yn cynnig panel o 3 darlith gan Alex Deans, Kirsty McHugh a Mary-Ann Constantine; bydd Liz Edwards yn trafod teithiau Hester Piozzi, a chyflwynir prif ddarlith gan Nigel Leask ar deithiau cerdded gan radicaliaid tua 1800.

October 18 (darlith gyhoeddus): bydd Nigel Leask yn rhoi darlith flynyddol Cymdeithas Thomas Pennant yn Nhreffynnon.

Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, neu os hoffech chi gael aelod o’r tîm i ddod i siarad â’ch grwp. A chofiwch bod croeso ichi ysgrifennu pwt bach ar gyfer ein blogiau!

Hafod: 15 Mehefin 2016

Taith gerdded o gwmpas stad yr Hafod

15/06/16

Bydd y daith gerdded yn un hamddenol, tua 4 milltir, gyda thipyn o aros i wrando ar sgyrsiau a pherfformiadau. Cynhelir y rhan fwyaf o’r rheini yn ystod rhan gyntaf y dydd; mae’n bosib, felly, ichi adael ynghynt os ydych chi’n dymuno. Dewch â thocyn bwyd: rydym yn anelu at gael picnic tua 1.15. Bydd y daith yn dilyn llwybrau swyddogol Hafod, ond noder bod rhai ohonynt yn serth ac yn llithrig – yn enwedig yn y prynhawn pan awn ni lan i Lefel Lampwll (Cavern Cascade). Nid oes tâl am y dydd, ond croesewir cyfraniadau tuag at Eglwys Newydd ac Ymddiriedolaeth Hafod. NID OES signal ffôn yma, ond mae ffôn yn Swyddfeydd y Stad. Dewch â chotiau glaw, eli haul a rhywbeth i’ch amddiffyn rhag y gwybed!

Mae’r amserlen isod yn fras iawn a bydd popeth yn dibynnu ar y nifer o bobl sy’n troi lan. Yn ogystal â’r sgyrsiau hyn (a draddodir yn Saesneg) ceir darlleniadau ac efallai caneuon. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â mary-ann.constantine@cymru.ac.uk

10.30: Ymgynnull: Eglwys Newydd, maes parcio a thai bach ar gael. Trefnir arddangosfa fach gan Gyfeillion yr Eglwys ac maent yn cynnig paned inni. Bydd yr artist Sarah Byfield o bosib yn dangos rhai o’i mapiau.

10.50: Jennie MacVe (Stad yr Hafod): croeso.

  1. 00: Martin Crampin: Eglwys Newydd a ffenestri gwydr lliw.

11.20:  Cerdded i lawr o’r Eglwys at swyddfeydd y Stad (taith rwydd, 20-30 munud)

11.50 – 12.30: Sgyrsiau byr gan Peter Wakelin (ar yr arlunydd John Piper a Hafod) & Peter Stevenson (prosiect ffilm gyfredol yn ymwneud â llên gwerin yr ardal)

12.30 – 12.50: O flaen adfeilion y Tŷ: archaeolegydd Andy Peters yn trafod ‘Treescapes at Hafod’.

12.50 -1.10 Cerdded (rhwydd) i Ardd Flodau Mrs Johnes. Picnic yma os yw’n braf, a chyfle i ddarganfod gwaith yr artist Christine Watkins, fydd yn creu Drysfa (Labyrinth) ar y lawnt.

Sgwrs gan Michael Freeman ar deithwyr i Gymru.

2.15 pm: Cerdded (20-30 munud) o’r ardd, dros y bont ac i’r dde, gan dorri ar draws lan i’r ‘Gentleman’s Walk’, ac ymlaen i’r twmpath ger Pant Melyn.

2.45: Sgwrs fer gan Mary-Ann Constantine ar ymweliad Iolo Morganwg â Hafod yn 1799.

3pm ymlaen. O’r man yma ceir ymweliadau (mewn grwpiau bach i’r rhai sy’n dymuno) i raeadr Lefel Lampwll (rhyw 10 munud i fyny’r bryn). Noder bod y llwybr yn serth a llithrig.

3.30: Dewis i ddychwelyd yn syth nôl i’r Eglwys, neu gymryd llwybr heibio’r Arcêd Gothig (ar ei newydd wedd), a’r Bont Shân (Chainbridge) – sy’n ychwanegu rhyw 20-30 munud i’r daith.

4-4.30 dychwelyd i Eglwys Newydd ac ymadael.

Rhaglen