“Dymunaf gael fy ystyried nid fel Topograffydd ond fel teithiwr chwilfrydig sy’n barod i gasglu popeth a ddisgwylid gan deithiwr ar ei siwrnai. Myfi yw’r cyntaf i geisio teithio gartref, ac felly rwy’n taer ddymuno bod yn fanwl gywir.”
Thomas Pennant, Mai 1773.
Lansiwyd y prosiect ymchwil hwn, a ariennir gan yr AHRC ac sy’n cael ei redeg ar y cyd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Glasgow, ym mis Medi 2014. Y mae’n agor y drws ar gofnodion o deithiau i Gymru a’r Alban yn y cyfnod Rhamantaidd, gan gymryd fel ffocws waith y naturiaethwr a’r hynafiaethydd o Sir y Fflint, Thomas Pennant (1726–1798). Llwyddodd teithiau cyhoeddedig Pennant yn y ddwy wlad i ddeffro diddordeb eithriadol ymhlith y cyhoedd yng ‘nghyrion’ Prydain. Mae’r safle’n cyflwyno golygiadau digidol chwiliadwy o ohebiaeth Pennant ac o deithiau nas cyhoeddwyd o’r blaen gan deithwyr eraill i Gymru a’r Alban. Ein gobaith yw parhau â gwaith y prosiect drwy greu golygiadau digidol o Deithiau cyhoeddedig Pennant yng Nghymru a’r Alban yn y dyfodol. Am ragor o wybodaeth ynghylch ein hamcanion a’n cynnyrch hyd yma, ymwelwch â Ynghylch y Prosiect.

A tour in Wales gan Thomas Pennant – Cyfrol 1 © Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae ein gwefan yn ffenestr ar gyfer arddangos adroddiadau byw a difyr llu o ‘deithwyr chwilfrydig’ a deithiodd i gyrion Ynysoedd Prydain i chwilio am dystiolaeth o fywyd cyntefig, ac am y pictiwrésg a’r aruchel, ond gan ganfod yn aml nodweddion estron a chythryblus yn rhyfeddol o agos i gartref. Ceir arni ddolenni i gysylltu ag ystod eang o destunau, cronfeydd data, llyfryddiaethau, ac adnoddau eraill. Gellir cael mynediad yma hefyd i gatalogau wedi’u darlunio’n llawn a blogiau o’n dwy arddangosfa. Rydym yn parhau i rannu’n gwaith drwy sgyrsiau a digwyddiadau cyhoeddus sy’n rhychwantu cynadleddau academaidd rhyngwladol a digwyddiadau lleol mewn arddangosfeydd, llyfrgelloedd a neuaddau pentref. Rydym hefyd yn gofyn i bobl ymwneud â Theithiau Cerdded Pennant, drwy ddilyn rhannau o’r teithiau yng Nghymru a’r Alban a chyfrannu at ein blogiau. Am wybodaeth ynghylch digwyddiadau yn y gorffennol a rhai sydd eto i ddod, ymwelwch â’n tudalen Digwyddiadau.

A tour in Wales gan Thomas Pennant – Cyfrol 1 © Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae teithiau o’r cyfnod Rhamantaidd yn adnodd hynod o gyfoethog, sy’n cyflwyno amrywiaeth o feysydd, boed yn gelf ac archaeoleg, byd natur, gwleidyddiaeth, llenyddiaeth, iaith neu ddaeareg. Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth grwpiau neu unigolion sydd â diddordeb yn Thomas Pennant neu mewn llenyddiaeth daith yn y cyfnod hwn. Cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.