Dydd Gwener 20 Medi
10yb–5yp
Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Diwrnod o drafodaethau a chyflwyniadau gan brosiect y Teithwyr Chwilfrydig. Dewch i glywed am ein gwaith yn creu golygiadau digidol o Deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban, am y bywgraffiad newydd i Pennant, am y cynllun i dorfoli delweddau Moses Griffith yn y Llyfrgell Genedlaethol, am yr arddangosfeydd a gynhaliwyd yn Nyffryn Maes Glas a’r prosiect celf mewn ysgol gynradd yn Chwitffordd, heb sôn am y rhagolygon cyffrous sydd i gasgliadau Pennant yn yr Amgueddfa Astudiaethau Natur, ac i lansio dau lyfr!
Gweler rhaglen a manylion cofrestru isod
