The public may thank him for numberless scenes and antiquities, which would otherwise have remained probably for ever concealed
Thomas Pennant, Literary Life (1793)

Moses Griffith: Diserth Hall (National Library of Wales)
Ganed Moses Griffith, yr arlunydd y mae ei waith yn addurno’r wefan hon, yn Nhrygarn, Bryncroes, Sir Gaernarfon ar 25 Mawrth 1747. Mynychodd yr Ysgol Rad ym Motwnnog ond nid yw’n ymddangos ei fod wedi cael unrhyw addysg bellach. Erbyn 1768—os mai ef yw’r ‘llanc o Lŷn’ y cyfeirir ato mewn llythyr oddi wrth Owen Holland at Thomas Pennant—roedd yn gweithio i’r Arglwyddes Bulkeley yn Baron Hill, Ynys Môn, yn tynnu lluniau o sbesimenau ar gyfer ei chasgliadau o fyd natur. Y flwyddyn ganlynol daeth i weithio i Pennant yn Downing: parhaodd ei berthynas â’r teulu am ddegawdau. Mae’n ymddangos yn debygol mai tynnu lluniau o sbesimenau ar gyfer cyhoeddiadau gwyddonol Pennant oedd gwaith cyntaf Griffith: mae ei enw i’w weld ar lawer o’r lluniau o adar ac anifeiliaid yn y British Zoology. Ond fe ddatblygodd yn gyflym fel arlunydd tirluniau ac adeiladau, gan deithio gyda Pennant ar ei ail daith i’r Alban ac Ynysoedd Heledd yn 1772 (nid oedd yn rhan o’r daith gynharach yn 1769, fel yr honnir yn aml), a darparu toreth o ddelweddau ar gyfer y Teithiau yng Nghymru (1778-1783). Daeth ei ddarluniau’n adnabyddus drwy ysgythriadau a ddefnyddiwyd i ddarlunio’r rhain yn ogystal â gweithiau eraill gan Pennant.
Carfan gymharol fechan o’i gyfoedion a wyddai am lawer o waith gorau Griffith, serch hynny. Cynhyrchodd gannoedd o ddyfrlliwiau a vignettes cain ar gyfer y golygiadau hardd wedi’u darlunio’n ychwanegol o’r teithiau yng Nghymru ac yn yr Alban a gynhyrchwyd gan Pennant a’i deulu yn
Downing; gwnaeth waith cyffelyb ar gomisiwn i gyfeillion Pennant, yn enwedig yr Aelod Seneddol o Sais, Richard Bull. Mae gohebiath Pennant-Bull (a fydd ar gael mewn golygiad ar lein erbyn diwedd 2018) yn cynnig goleuni pellach ar y prosesau cymhleth y tu ôl i’r gwaith o greu’r cyfrolau hyn. Ar ôl marwolaeth Thomas Pennant yn 1798, parhaodd Moses Griffith i weithio i’r teulu, gan gynhyrchu cyfres o tua 200 dyfrlliw o olygfeydd yng Nghymru rhwng 1805 a 1813; lluniodd bortreadau yn ogystal. Priododd Margaret Jones o Chwitffordd, Treffynnon, yn 1781, a chawsant ddau o blant.

Moses Griffith: Tref Dinbych (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Mae llawer o waith Moses Griffith yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a gellir ei weld ar lein yn awr drwy eu casgliadau digidol:
Y cyfrolau gyda darluniau ychwanegol o’r Teithiau yng Nghymru
Brasluniau Moses Griffith yng ngogledd Cymru
Mae’r cyfrolau gyda darluniau ychwanegol o’r Teithiau yn yr Alban wedi eu digido gan y Llyfrgell Genedlaethol ac maent ar gael i’w gweld yn awr drwy chwilio’r prif gatalog.
Cyflwynir rhai o luniau byd natur Moses Griffith ar wefan Llyfrgell Linda Hall (Missouri) yma.
Disgrifir ymweliad â Thrygarn mewn blog gan yr artist Peter Stevenson yma.
Trafodir y ‘llanc yn Baron Hill’ gan Ffion Jones yn ei blog yma.
Arddangosir detholiad o ddyfrlliwiau gan Moses Griffith hyd fis Rhagfyr 2018 yn Ystafell Hengwrt, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o Arddangosfa Ganmlwyddol Llawysgrifau Mostyn.